Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Disgyblion ysgol gynradd a’u rhieni yn meithrin sgiliau maeth am oes
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Disgyblion ysgol gynradd a’u rhieni yn meithrin sgiliau maeth am oes
Busnes ac addysg

Disgyblion ysgol gynradd a’u rhieni yn meithrin sgiliau maeth am oes

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 4:53 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Children making pancakes
RHANNU

Erthyl gwadd: BIPBC

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Brynteg, Wrecsam a’u rhieni, neu eu neiniau a’u teidiau wedi cymryd rhan mewn cwrs coginio arloesol a ddatblygwyd gan dîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Addasiad o Dewch i Goginio, cwrs arobryn o Ogledd Cymru yw Dewch i Goginio gyda’ch Plentyn. Mae’n galluogi plant pedair a phum mlwydd oed i weithio ochr yn ochr â rhiant, gofalwr, nain neu daid i feithrin gwybodaeth gynnar am fwyd, maeth a sgiliau coginio ymarferol a hynny yn amgylchedd yr ysgol.

Dywedodd Sarah Powell-Jones, Cynorthwyydd Deieteg sy’n cyd-arwain y cyrsiau: “Mae wedi bod yn wych gweithio gyda rhieni, neiniau a theidiau a’u plant yn yr ysgol. Mae’r rhieni, y neiniau a’r teidiau yn ogystal â’r plant wedi dysgu cymaint yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf.

“Mae’r plant wedi dysgu am hylendid bwyd a diogelwch yn y gegin, sut i gynnwys mwy o lysiau a ffrwythau yn eu prydau bwyd, ac wedi edrych ar sut i leihau siwgr yn eu prydau brecwast a chinio. Mae’r rhieni, y neiniau a’r teidiau wedi dysgu am y pynciau hyn gyda’r plant ac wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol yn canolbwyntio ar y Canllaw Bwyta’n Dda, bwydydd sy’n cynnwys braster, ffeibr, siwgr a halen, darllen labeli, addasu ryseitiau, siopa’n ddoeth a chynllunio bwydlenni.”

Mae’r cwrs yn annog plant i fwynhau cymryd rhan wrth baratoi prydau bwyd i’r teulu ac i archwilio a rhoi cynnig ar flasu bwydydd newydd. Mae gan bob sesiwn thema am faeth, er enghraifft ‘pump y dydd’ neu frecwast a bocs bwyd iachus. Mae pob sesiwn yn dechrau gyda stori ac yna mae cyfle i blant a rhieni ddewis o amrywiaeth o weithgareddau hwyliog yn ogystal â choginio a blasu bwyd gyda’i gilydd.

Dywedodd Rachel Roberts, Cynorthwyydd Deieteg sydd hefyd yn cyd-arwain y cwrs: “Mae’r sesiynau wedi bod yn llawn o weithgareddau ac mae pawb wedi ymgysylltu â ni ar bob cyfle. Rydyn ni’n credu bod y cwrs hwn yn un arbennig gan ei fod yn rhoi cyfle i rieni/neiniau a theidiau/gofalwyr ddod i’r ysgol a gweithio gyda’u plentyn am ychydig o oriau bob wythnos. Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed y teuluoedd yn sgwrsio am y gwahaniaeth mae’r cwrs yn ei wneud, a’r hyn maent yn ei newid neu’n rhoi cynnig arno yn eu cartrefi bob wythnos.”

Mae’r grŵp o blant, rhieni, neiniau a theidiau yn Ysgol Gynradd Brynteg, Wrecsam, ymysg y grwpiau cyntaf o deuluoedd i gymryd rhan yn y cwrs.

Dywedodd Rachel Connell, Pennaeth Ysgol Gynradd Brynteg: “Mae’r rhaglen Dewch i Goginio wedi rhoi cyfle arbennig i’r plant iau a’u rhieni weithio gyda’i gilydd a chreu prydau iach. Mae’r adborth gan y plant a’u rhieni wedi bod yn gadarnhaol dros ben. Roedd y sesiynau’n hwyl ac erbyn hyn, maent wedi magu mwy o hyder, gwybodaeth a sgiliau. Maen nhw’n edrych ymlaen at goginio’r prydau eto gartref.”

Bydd y cwrs Dewch i Goginio Gyda’ch Plentyn yn cael ei gynnal mewn dwy ysgol gynradd arall yn Wrecsam a Sir y Fflint y mis hwn ac mae cynlluniau i gyflwyno’r cwrs i ysgolion cynradd eraill ledled Gogledd Cymru yn ystod 2023 a thu hwnt. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Tîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus y Bwrdd Iechyd.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Welsh medium education Ymgeisio am le mewn dosbarth meithrin i’ch plenty?
Erthygl nesaf Free Swimming Sesiynau nofio am ddim yn ystod wythnos hanner tymor – 20-26 Chwefror

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English