Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Buddsoddiad o £2.6 miliwn mewn tai cymdeithasol newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Buddsoddiad o £2.6 miliwn mewn tai cymdeithasol newydd
Y cyngor

Buddsoddiad o £2.6 miliwn mewn tai cymdeithasol newydd

Diweddarwyd diwethaf: Medi 28, 2022 3:03 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Buddsoddiad o £2.6 miliwn mewn tai cymdeithasol newydd
Cllr Paul Blackwell, Jane Cotton (Plas Madoc Estate Office, Team Leader, Housing Dept) Cllr John Pritchard, Ceri Postle (Housing Development Project Manager, Economy and Planning Dept) Cllr Mark Pritchard, Cllr David Bithell and Mark Jowitt (Senior Quantity Surveyor, Design Services, Housing Dept )
RHANNU

Dymchwelwyd 13 eiddo a oedd yn anodd eu gosod ac yn amhoblogaidd yng Ngwynant, Plas Madoc yn ystod 2018 fel rhan o brosiect ailfodelu’r ystâd.  Roedd y safleoedd gwag hyn yn darparu gofod ar gyfer 11 o’r 13 eiddo newydd.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae’r adeiladau newydd yn cynnwys:

  • 4 fflat un ystafell wely â grisiau
  • 2 dŷ pâr gyda dwy ystafell wely
  • 2 dŷ pâr gyda thair ystafell wely
  • 3 tŷ ar wahân gyda phedair ystafell wely yng Ngwynant ym Mhlas Madoc.
  • 2 byngalo dormer pum ystafell wely yng Nghlaslyn.

Adeiladwyd pob eiddo i ofynion ansawdd dylunio Llywodraeth Cymru, Safonau Cartrefi Gydol Oes ac yn diwallu safonau ansawdd tai Cymru.  Mae’n yn llawn golau a gofod, mae gan bob tŷ le parcio oddi ar y ffordd a’u gardd eu hunain gyda phatio.   Mae band eang ffibr ar gael i’w gysylltu gan y tenantiaid ac mae paneli solar ar yr eiddo a storfa batri i gefnogi costau ynni is.

Hefyd fel rhan o’r prosiect ailfodelu’r Ystâd ym Mhlas Madoc mae oddeutu 400 o eiddo ffrâm cubitt dur, sy’n eiddo i’r cyngor, wedi derbyn insiwleiddiad waliau allanol, gan eu gwneud yn fwy effeithlon o ran gwres, gan leihau biliau tanwydd ar gyfer tenantiaid, ynghyd â moderneiddio eu hedrychiad allanol.  Mae sawl eiddo wedi derbyn ffensys newydd a gwelliannau i’r gerddi ochr yn ochr â rhai gwelliannau amgylcheddol eraill a wnaed dan arweiniad y gymuned.

Mae prosiect ailfodelu’r Ystâd wedi cymryd y cyfle i brofi ailfodelu teras o eiddo tri llawr i’w gwneud yn fwy addas i denantiaid a theuluoedd, gan gynyddu gofod llawr, garej ar gyfer yr eiddo a phwynt mynediad allanol.

Dyma ail gam cynlluniau datblygu adeiladau newydd y cyngor, gan ategu at lwyddiant safle Nant Silyn ym Mharc Caia, a gwblhawyd ym mis Mehefin 2021 a’i ddarparu gan Liberty hefyd.  Datblygiad Nant Silyn oedd y datblygiad tai cyngor newydd cyntaf i gael ei adeiladu yn yr ardal ers 30 mlynedd.  Gellir darllen mwy am brosiect Nant Silyn yma: https://newyddion.wrecsam.gov.uk/clos-nant-silyn-yn-nodi-dychweliad-i-adeiladu-tai-cyngor-yn-wrecsam/

Bydd gwaith pellach ar bedwar fflat un ystafell wely newydd yn Llai yn cael ei gwblhau yn yr hydref 2022, y tu cefn i Uned Tai Gwarchod Tir y Capel.  Mae caniatâd cynllunio yn ei le ar gyfer chwe fflat un ystafell wely arall yn Johnstown, rhagwelir y bydd y gwaith yn dechrau yn y flwyddyn ariannol newydd. Mae gwaith cwmpasu pellach ar gyfer datblygiadau newydd yn y dyfodol yn cael ei gyflawni gan Gyngor Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai: “Gyda datblygiad Clos Nant Silyn a gwblhawyd y llynedd gosodwyd y safon ar gyfer darparu tai o ansawdd i’n preswylwyr, ac rwy’n falch iawn bod y safonau uchel wedi parhau yn natblygiad Plas Madoc”.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion:“Mae’r gwaith ym Mhlas Madoc yn parhau ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi gydol oes sy’n gyfoes, cynnes ac addas ar gyfer ein tenantiaid.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Y llynedd, cymeradwyodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a oedd yn caniatáu i ni fuddsoddi £58.9 miliwn mewn stoc tai Cyngor o dros 11,000 o eiddo drwy gydol blwyddyn ariannol 2021/22. “Rwy’n falch iawn o weld yr ymrwymiad i fuddsoddi yn trawsnewid i ddarparu gwir fuddion i’n preswylwyr.”

Mae’r adeiladau newydd wedi’u hariannu drwy’r Cyfrif Refeniw Tai (CBSW) a Grant Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect wedi’i adeiladu gan fusnes gwasanaethau eiddo cenedlaethol, Liberty, ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’r holl dai newydd ym Mhlas Madoc wedi’u dyrannu fel tai rhent cymdeithasol i’r rhai ar Gofrestr Tai Cymdeithasol y Cyngor.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cost of Living Digwyddiad Costau Byw i helpu aelwydydd i’w gynnal ym mis Hydref
Erthygl nesaf Fly Tippers Sicrhewch fod y “dyn mewn fan” sy’n cael gwared â’ch sbwriel wedi ei gofrestru, neu mae perygl y byddwch yn derbyn dirwy o hyd at £5,000.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English