Bydd pobl sy’n defnyddio’r gampfa’n rheolaidd, neu sy’n nofio neu’n gwneud ymarfer corff yn aml wedi sylwi ar y gwelliannau diweddar mewn canolfannau hamdden a chaeau awyr agored yn Wrecsam.
Mae’r newidiadau yn rhan o fuddsoddiad gwerth £2.7 miliwn a wnaethpwyd gan Gyngor Wrecsam a Freedom Leisure i’r pedwar cyfleuster hamdden a chaeau 3G newydd ar draws y fwrdeistref sirol.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae llawer o’r canolfannau hyn eisoes wedi’u huwchraddio.
Ond mae rhagor o welliannau ar y ffordd ar gyfer cyfleusterau hamdden yn Wrecsam.
Canolfan Byd Dŵr
Mae’r cyffyrddiadau olaf yn cael eu rhoi i welliannau yng Nghanolfan Hamdden Byd Dŵr yng nghanol y dref.
Yn ddiweddar caewyd y gampfa am benwythnos er mwyn i lawr newydd gael ei osod.
Bydd y gampfa ar gau yr wythnos nesaf o ddydd Llun, 14 Awst tan ddydd Gwener 18 Awst -a bydd offer newydd yn cael ei osod ar y safle yn ystod yr wythnos.
Tra bydd y gampfa ar gau, gallai defnyddwyr gymryd y cyfle i ymweld â’r cyfleusterau wedi’u huwchraddio yn Queensway, y Waun, neu Gwyn Evans, mae’r tri safle wedi cael uwchraddio eu hoffer eu hunain fel rhan o’r £2.7miliwn a fuddsoddwyd i gyfleusterau hamdden ar draws Wrecsam.
Cynhelir digwyddiad ailagor swyddogol yn y cyfleuster yn yr hydref.
Morgan Llwyd
Mae cyfleusterau defnydd deuol yn Ysgol Morgan Llwyd hefyd yn dod at ei gilydd, gyda chae 3G newydd i gael ei gwblhau cyn hir.
Ynghyd â Chanolfan Hamdden a Gweithgaredd y Waun a Stadiwm Queensway, mae Morgan Llwyd yn un o dri safle ar draws y fwrdeistref sirol i gael gosod caeau newydd.
Morgan Llwyd yw’r cae mwyaf o’r tri, gyda buddsoddiad o £140,000. Bydd y cae newydd yn gallu cynnal pob lefel o gemau, gan gynnwys gemau oedolion.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi, sydd â chyfrifoldeb am Hamdden: “Mae gwaith ar bob un o’r cyfleusterau hyn yn datblygu ar gyflymder gwych, ac mae’r set gyfan o waith wedi mynd heibio mor gyflym – bydd campfa newydd sbon yn ei le yng Nghanolfan Byd Dŵr cyn hir.
“A bydd y gwaith sydd bron â’i orffen ym Morgan Llwyd yn goron ar fwy na £3000,000 o fuddsoddiad mewn caeau chwaraeon defnydd deuol ar draws y fwrdeistref sirol, ac mae gwaith wedi’i wneud yn y Waun a Queensway hefyd.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI