Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bwrdd Gweithredol i gyfarfod yfory (13.07.21) – darganfyddwch beth sydd ar y rhaglen
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Bwrdd Gweithredol i gyfarfod yfory (13.07.21) – darganfyddwch beth sydd ar y rhaglen
Y cyngor

Bwrdd Gweithredol i gyfarfod yfory (13.07.21) – darganfyddwch beth sydd ar y rhaglen

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 12, 2021 12:07 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Children's Services
RHANNU

Bydd ein Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod bore yfory am 10am ac mae ganddynt rhaglen lawn i weithio drwyddi.

Bydd y sylw ar wella Gwasanaethau Plant wrth ofyn i aelodau gymeradwyo Fframwaith Atal a Chymorth Cynnar a chreu Partneriaeth Atal a Chymorth Cynnar. Mae’r ddau yn berthnasol a phwysig er mwyn gweld gwelliant parhaus yn y maes gwasanaeth pwysig yma.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd wedi ymweld â’n Gwasanaethau Plant fel rhan o’u gwaith yn monitro’r gwasanaeth, ac mae’r hyn y maent yn ei adrodd yn eu llythyr dilynol yn adlewyrchiad positif o waith y Cyngor ar lefel swyddogion ac aelodau wrth gefnogi gwelliant parhaus yng ngwasanaethau cymdeithasol plant yn Wrecsam.

Eitem arwyddocaol arall y bydd gofyn iddynt ei gymeradwyo yw’r cais am gefnogaeth gan Lywodraeth y DU am lety a chefnogaeth fel rhan o Bolisi Adleoliad a Chymorth Affgan.

Mae’r cais yn adlewyrchu’r sefyllfa wleidyddol yn Affganistan sydd wedi dod yn fwyfwy cyfnewidiol yn ystod y misoedd diwethaf, sy’n golygu bod y rhai a helpodd byddinoedd a llywodraeth y DU yn Affganistan mewn perygl sylweddol o niwed oni bai eu bod yn cael eu hadleoli o’r wlad.

Argymhellir fod Cyngor Wrecsam yn cefnogi’r cynllun a fydd yn cael budd o’i brofiad wedi llwyddiant Cynllun Adsefydlu Ffoaduriaid o Syria a ddaeth i ben llynedd.

Mae cymryd rhan yn y cynllun ar sail gwbl wirfoddol gyda phecyn ariannu’r Swyddfa Gartref yn talu am y gost o ddarparu llety yn amodol ar argaeledd yn y sector preifat, a bydd yn cynnwys costau sefydlu; cefnogaeth ariannol cyn i fuddion prif ffrwd ddod i rym a chostau sy’n gysylltiedig ag anghenion integreiddio’r unigolion a theuluoedd dan sylw am gyfnod o ddeuddeg mis.

Bydd y Bwrdd Gweithredol hefyd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun y Cyngor ar gyfer 2020 i 2021 sy’n dynodi’r pwysau arwyddocaol mae pob gwasanaeth yn ei wynebu yn ystod y pandemig a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2020/21 – 2024/25.

Gallwch gael cip ar y Rhaglen yma a’i wylio yn fyw, bydd y darllediad yn dechrau am 10am.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Activities Gall plant aros yn egnïol yr haf hwn gyda’r Rhaglen Gweithgareddau’r Haf
Erthygl nesaf A483 Rossett to Gresford Gwaith i’w gwblhau ar Ffyrdd Deuol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English