Wrth i’r Nadolig agosáu a phawb yn edrych ymlaen at eu partïon Nadolig, rydym yn atgoffa pawb bod angen gwneud yn siŵr bod unrhyw dacsi yr ydych yn ei ddefnyddio wedi ei drwyddedu’n iawn.
Dylai pob cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni arddangos platiau trwydded gwyn a phiws y tu allan i’r cerbydau.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Bydd gan gerbydau hurio preifat arwyddion melyn yn y ffenestri cefn hefyd.
Dylai fod gan yr holl yrwyr fathodyn ID yn dangos eu henw, llun ohonynt, rhif trwydded a’r dyddiad y mae’r drwydded yn dod i ben arno. Os na allwch weld y bathodyn, gofynnwch i’w weld cyn i chi fynd i unman.
Meddai Ian Bancroft, y Prif Weithredwr: “Mae mor hawdd neidio i mewn i dacsi sy’n aros wrth adael clwb nos neu leoliad tebyg, gan ddisgwyl cyrraedd adre’n saff. Mae’r Nadolig yn amser pan fydd rhai pobl ddigydwybod yn gweld cyfle i wneud ychydig o arian drwy esgus bod yn yrrwr tacsi cyfreithlon. Ar yr achlysuron hyn, ni fydd y cerbydau wedi’u trwyddedu nac yn cynnwys yswiriant digonol, ac ni fyddant wedi mynd drwy’r profion angenrheidiol ar gyfer cludo’r cyhoedd. Mae’n werth gwirio cyn mynd i mewn ac os na allwch weld bathodyn ID y gyrrwr, gofynnwch i’w weld.”
Yn ystod mis Rhagfyr, bydd Swyddogion Trwyddedu yn gweithio gyda Heddlu Wrecsam i wirio tacsis er mwyn sicrhau eu bod i gyd yn gyfreithiol ac yn addas i’r pwrpas.
Mae Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid yn hyrwyddo ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, er mwyn annog pobl ifanc i edrych ar ôl eu hunain drwy yfed llai cyn mynd allan… yn ogystal â chadw cyfrif o faint maen nhw’n yfed unwaith maen nhw’n cyrraedd clybiau a thafarndai Wrecsam.
Mae’n wir, wrth yfed llai – a gwybod beth ydi eich terfyn chi eich hun – gallwch gael noson allan llawer iawn gwell.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN