Erthygl gwestai gan Heddlu Gogledd Cymru
Mae Seiberddiogelwch yn bwysig i fusnesau, grwpiau ac unigolion ac mae yna gyfle i wybod mwy am sut i aros yn ddiogel ar-lein ar 8 Mawrth pan fydd bws gwybodaeth seiber gydag offer arbenigol yn dod i Wrecsam fel rhan o daith genedlaethol.
Bydd y bws yn cael ei staffio gan Swyddogion Seiberddiogelwch yr Heddlu dwyieithog ac arbenigwyr seiber yn ogystal â phartneriaid fel Cadw’n Ddiogel Ar-Lein a’r Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol. Bydd yr oriau gwaith rhwng canol dydd ac 8.00pm ar gyfer y sawl sy’n methu bod yn bresennol yn ystod oriau gwaith.
“Mae mwy na £190,000 y dydd yn cael ei golli”
Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Action Fraud yn dangos bod dioddefwyr seiber-drosedd yn colli mwy na £190,000 y dydd yn y DU. Roedd dros trydedd rhan o’r dioddefwyr yn y cyfnod hwnnw yn dioddef hacio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac e-bost.
Mae Action Fraud hefyd yn dweud bod £34.6 miliwn wedi’i ddwyn gan ddioddefwyr rhwng Ebrill a Medi 2018, 24% o gynnydd ers y chwe mis blaenorol.
Mae Heddlu Dinas Llundain, sy’n gweithredu Action Fraud, wedi rhybuddio pobl i gadw cyfrineiriau ar wahân ar gyfer cyfrifon ar-lein.
Mae ffigyrau yn dangos bod 13,357 o bobl yn y DU wedi rhoi gwybod am seiber-droseddau yn ystod y chwe mis diwethaf ac roedd dros 5,000 o’r bobl hynny wedi eu hacio drwy eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac e-bost, cost o £14.8miliwn i ddioddefwyr.
Mae’r bws yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan Tarian yr Uned Trosedd Cyfundrefnol Rhanbarthol (ROCU) De Cymru ynghyd â ROCU’r Gogledd Orllewin.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Symon Kendall o Tarian: “Rydym yn anelu i ddefnyddio’r bws i siarad gydag unrhyw un â diddordeb mewn uwchsgilio eu hunain a gallwn ddangos sgampiau a haciau.
“Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau ar wahân mewn eiddo cyfagos i fusnesau a’r cyhoedd lle cynhelir cyflwyniadau seiberddiogelwch mwy ffurfiol ac ymarferion gwydnwch seiber busnes
“Pum cam allweddol i gynyddu seiberddiogelwch“
“Amcangyfrifir y gellir lleihau bregusrwydd i seiberddiogelwch hyd at 80% drwy gymryd pum cam allweddol i gynyddu seiberddiogelwch. Rydym yn cydnabod bod y mwyafrif o ymgyrchoedd yn dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol a gwybodaeth gwefan a mynychir y mwyafrif o ddigwyddiadau seiberddiogelwch gan y sawl â diddordeb mewn seiberddiogelwch. O ganlyniad nid ydym yn cyrraedd at y cyhoedd a busnesau bach. Mae’r prosiect hwn wedi’i ddylunio i geisio gwella hyn.
“Rydym yn gwybod bod yna ddiffyg adrodd sylweddol am seiberdroseddu yn genedlaethol ac mae hyn yn effeithio ar ein gallu i oresgyn y bygythiad a thrwy hybu Action Fraud a’r Ganolfan Adrodd am Dwyll a Seiberdroseddu Cenedlaethol byddwn yn codi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau sydd ar gael.
“Y nod cyffredinol yw cynnwys diogelwch a gwydnwch seiber yn genedlaethol fydd yn ei dro yn gwneud Cymru yn fwy seiber-wydn yn genedlaethol lle mae’n fwy diogel i ymgymryd â busnes ar-lein.”
Cofiwch y dyddiad – 8 Mawrth rhwng 2pm a 5pm ar Sgŵar y Frenhines.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN