Hoffwn atgoffa preswylwyr sy’n bwriadu tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2021/22 nad oes angen iddynt wneud unrhyw beth eto.
Bydd y cynllun 2021/22 yn rhedeg o ddydd Llun, Awst 30, 2021 tan ddydd Gwener, Medi 2, 2022 a’r dyddiad cynharaf y gallwch dalu am y gwasanaeth hwn ymlaen llaw yw dydd Llun, Mehefin 28.
Peidiwch â cheisio adnewyddu cyn Mehefin 28
Bydd unrhyw un sy’n ceisio talu ar gyfer y gwasanaeth ar-lein cyn Mehefin 28 yn cofrestru ar gyfer gwasanaeth 2020/21, sy’n cau ddiwedd mis Awst.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Y ffi fydd £25 y flwyddyn, fesul bin o hyd
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Rydym yn falch o allu rhewi cost y wasanaeth ar £25 y flwyddyn, fesul bin gwyrdd, sy’n llai na sawl awdurdod lleol arall yng Nghymru a Lloegr. Bydd ceisiadau i adnewyddu yn cychwyn ddydd Llun, 28 Mehefin, a’r ffordd mwyaf cyfleus i dalu ar gyfer y gwasanaeth yw ar-lein ar www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd. Os nad yw hyn yn bosibl, gallwch ein ffonio ar 01978 298989 i wneud taliad â cherdyn. Serch hynny, mae’n rhaid i ni bwysleisio, peidiwch â cheisio talu am y gwasanaeth hwn nes bydd ceisiadau i adnewyddu yn agor, ar 28 Mehefin. Diolch.”
Sticeri newydd i’r sawl sy’n adnewyddu
Bydd preswylwyr sy’n adnewyddu eu tanysgrifiad i’r gwasanaeth yn derbyn sticer newydd, y bydd angen ei arddangos yn glir ar gaead eich bin i sicrhau casgliadau.
Gadewch 10 diwrnod o leiaf o’r dyddiad rydych yn adnewyddu er mwyn derbyn eich pecyn sticer newydd.
Dim taliadau arian parod na sieciau
Llynedd, cawsom nifer o gwsmeriaid a geisiodd dalu am y gwasanaeth drwy anfon arian parod neu sieciau atom. Mae’n rhaid i ni ailadrodd; nid oes modd i ni dderbyn y taliadau hyn.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF