Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Digwyddiadau Pobl a lle
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Green garden waste bin
Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Yn cael sylw arbennig > Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.
Yn cael sylw arbennig

Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.

Diweddarwyd diwethaf: 2021/09/23 at 12:14 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.
Images by Craig Colville on behalf of Wrexham County Borough Council (WCBC) . Pictured scale model of the dragon
RHANNU

Mae Coleg Cambria, Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir Wrecsam a rhanddeiliaid eraill yn cydweithio er mwyn creu draig allan o gyllyll sy’n mesur tri metr gan ddefnyddio arfau a gafodd eu rhoi yn ddiogel i orsafoedd heddlu lleol fel rhan o ymgyrchoedd amnest rhanbarthol.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Mae’r cerflun yn cael ei adeiladu ar safle Ffordd y Bers y coleg, lle bydd myfyrwyr a staff yn weldio a gwneuthuro’r arfau ar ffrâm ddur dros y flwyddyn nesaf – mae’r arfau yn cynnwys llafnau a haearnau dwrn.

Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.

Mae’r cerflun wedi’i ysbrydoli gan y cerflun 20 troedfedd ‘Knife Angel’ a gafodd ei greu gan yr artist Alfie Bradley, a’i ddadorchuddio yn 2017. Dywedodd Karl Jackson, sef Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ac Arweinydd Safle Ffordd y Bers: “Bydd y cerflun yma yn ganolbwynt ar gyfer gwaith amlasiantaethol a fydd yn addysgu er mwyn ceisio cadw’r lefelau o achosion yn isel, a lleihau’r achosion o droseddau cyllyll yn yr ardal.

“Rydyn ni wedi bod yn trafod gyda Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Wrecsam ers sawl blwyddyn erbyn hyn am ddylunio a chreu darn o gelf a fydd yn helpu codi proffil ymgyrchoedd ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll.

“Ein cysyniad ydi draig yn gwarchod plentyn; bydd ein tiwtoriaid a’n myfyrwyr dawnus yn weldio’r ddraig, a dwi’n siŵr fe fydd yn edrych yn anhygoel pan fydd wedi ei gwblhau.

“Bydd y cerflun yn cael ei osod ar blinth concrid gyda charreg las Cymreig o flaen y Sefydliad Technoleg. Bydd goleuadau coch, gwyn a gwyrdd yn goleuo’r cerflun er mwyn rhoi’r darlun o ddraig yn eistedd ymysg gweddillion hen Gastell Cymreig.”

Dywedodd: “Bydd y cerflun yn cael ei roi ar safle’r coleg – ond mi fydd yn bosib ei symud o le i le mewn partneriaeth â’r cyngor lleol a grŵp atal troseddau cyllell lleol, er mwyn lledaenu’r neges a helpu addysgu pobl am beryglon cario arfau a’r niwed y mae troseddau cyllyll yn gallu eu hachosi.”

Dywedodd Luke Hughes sef arolygydd Tref Wrecsam, bod lefel troseddau cyllyll yr ardal yn isel: “Mae Wrecsam yn ardal ddiogel iawn o ran troseddau cyllyll, yn wahanol i rannau eraill o’r wlad, nid oes llawer o droseddau cyllyll yn digwydd yno.

“Beth bynnag, oherwydd natur troseddau cyllell, gall un drosedd achosi difrod mawr. Mewn eiliad o wylltineb, gall bywydau cymaint o bobl newid mewn chwinciad.

“Oherwydd hynny mae’n hollbwysig ein bod ni’n creu cyfleoedd i dynnu sylw at droseddau cyllyll a’r hyn y gallwn ni ei wneud i’w osgoi.

“Yn y misoedd diwethaf rydyn ni wedi cymryd dros gant o gyllyll oddi ar strydoedd Wrecsam yn ystod ein hamnest lleol.

“Mae’r ‘Ddraig Gyllyll’ yn cynnig ffordd i ni gydweithio gyda’n partneriaid ar brosiect a fydd efallai yn gallu atal trychineb arall. Gan ddefnyddio arfau sydd wedi cael eu hatafaelu oddi ar ein strydoedd ni, rydyn ni’n sicrhau na fyddant yn cael eu defnyddio i niweidio unrhyw un eto.

“Mae gan bawb gyfrifoldeb i addysgu rhywun sydd efallai yn meddwl bod cario cyllell yn dderbyniol. Gall y canlyniadau o wneud hynny fod yn hollol drychinebus.

“Bydd y prosiect yma yn rhywbeth i atgoffa’r gymuned ein bod ni’n gallu gwarchod y rhai mwyaf bregus wrth gydweithio a chodi ymwybyddiaeth ac addysgu unrhyw un sydd ar y llwybr i wneud y dewisiadau anghywir.”

Dywedodd Aelod Arweiniol Cydweithrediad a Phartneriaethau Cymunedau, Cyng. Hugh Jones Wrecsam:  “Mae Gogledd Cymru a Wrecsam yn ardaloedd diogel iawn i fyw a gweithio ynddyn nhw.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda sefydliad lleol a chenedlaethol er mwyn atal trosedd. Mae trosedd sy’n ymwneud â chyllyll yn effeithio ar y gymuned ehangach, yn ogystal ag effeithio’r dioddefwyr a’u teulu agos.

“Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r prosiect yma, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y ddraig yn dechrau’r sgwrs am sut a pham bod dim lle i’r arfau hyn yn ein cymunedau.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin: “Gogledd Cymru ydi un o’r ardaloedd fwyaf diogel yn y DU i fyw a gweithio ynddo ac mae cadw ein cymunedau’n ddiogel yn parhau i fod yn ganolbwynt i mi.

“Fyddwn i byth yn fodlon gyda’r mater yma, a bydd y cerflun yma yn anfon neges bwerus am beryglon troseddau cyllyll. Gorau po fwyaf y gallwn ni ei wneud i godi ymwybyddiaeth.”

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at karl.jackson@cambria.ac.uk neu ewch i www.cambria.ac.uk

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am droseddu cyllyll, ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Fel arall, ewch i www.fearless.org/ên/give-info.

Yn 2020 creodd Senedd yr Ifanc holiadur er mwyn dysgu am faterion troseddau cyllell yn Wrecsam.  Roedd yr ymgynghoriad blaenorol yn darparu gwybodaeth i’r Senedd am droseddau cyllell ond roedden nhw’n teimlo bod arnyn nhw angen darlun mwy eglur o’r sefyllfa yn Wrecsam. Felly, mae Senedd yr Ifanc yn dymuno cynnal holiadur tebyg unwaith eto.Mae’r holiadur yn anhysbys; a gofynnwn i bawb ateb y cwestiynau yn agored ac yn onest. Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i dargedu at bobl ifanc 11 – 25 oed.

Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.
Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.
Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.
Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.
Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.
John Freeman ac Karl Jackson o Coleg Cambria
Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.
Rhannu
Erthygl flaenorol Exhibition Arddangosfa yn dathlu 20 mlynedd o frand gemwaith llawn personoliaeth
Erthygl nesaf Cyngor Gorau ar Ailgylchu! Bydd Wych. Ailgylcha. Cyngor Gorau ar Ailgylchu! Bydd Wych. Ailgylcha.

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Digwyddiadau Pobl a lle Rhagfyr 5, 2025
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Rhagfyr 5, 2025
Green garden waste bin
Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor Rhagfyr 5, 2025
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam Rhagfyr 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gweithdai Creadigol yn Lansio Ar Draws Wrecsam i Gefnogi a Llunio Cais Dinas Diwylliant y DU Wrecsam2029
DigwyddiadauPobl a lleYn cael sylw arbennig

Gweithdai Creadigol yn Lansio Ar Draws Wrecsam i Gefnogi a Llunio Cais Dinas Diwylliant y DU Wrecsam2029

Tachwedd 27, 2025
Eisteddfod i gynnal gwyl Hydref AM DDIM yn Wrecsam
Pobl a lleYn cael sylw arbennig

Eisteddfod i gynnal gwyl Hydref AM DDIM yn Wrecsam

Hydref 2, 2024
Children playing with life size model
Pobl a lleYn cael sylw arbennig

Mae gŵyl wyddoniaeth Wrecsam yn dychwelyd fis Awst yma – archebwch nawr!

Gorffennaf 26, 2023
fost
ArallYn cael sylw arbennig

Cymru ar frig y DU o ran cymorth hanfodol i helpu plant mabwysiedig i ddeall hanesion eu bywydau

Mai 23, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English