Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor

Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…

Diweddarwyd diwethaf: Medi 2, 2025 3:26 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Recycling
RHANNU

O’r wythnos nesaf, bydd gwaith peirianneg sylweddol yn cael ei wneud yng nghanolfan ailgylchu Plas Madoc i wella’r safle. Rydyn ni’n disgwyl i’r gwaith hwn gymryd tua saith wythnos i’w gwblhau.

Rydyn ni’n falch o roi gwybod y bydd trigolion Wrecsam yn dal i allu ymweld â’r cyfleuster yn ystod y cyfnod hwn, ond i helpu i gadw pawb yn ddiogel rydyn ni wedi cyflwyno system archebu dros dro sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi drefnu eich ymweliad nesaf ymlaen llaw.

Sut i drefnu eich ymweliad nesaf

Gallwch drefnu eich ymweliad nesaf yn hawdd drwy lenwi’r ffurflen ar-lein ar ein gwefan – www.wrecsam.gov.uk/ArchebuPlasMadoc

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Tra bod y gwaith yn digwydd – i gadw mynediad yn ddiogel ac yn esmwyth – bydd angen i chi archebu slot amser i ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc.

“Pan fyddwch chi’n cyrraedd, dangoswch eich e-bost cadarnhau ar eich ffôn clyfar. Gall trigolion nad oes ganddynt ffôn clyfar ddod â chopi print o’ch cadarnhad yn lle, ond ceisiwch osgoi hyn os yn bosibl.”

Rhai pethau pwysig i’w cofio:

  • Yn anffodus, ni fydd y safle yn gallu cymryd teiars, pridd na rwbel yn ystod y cyfnod hwn (ond gallwch chi fynd â’r rhain i’n canolfannau ailgylchu eraill yn Lôn y Bryn a Brymbo)
  • Bydd angen i drigolion ddangos prawf eu bod nhw’n byw yn y fwrdeistref sirol o hyd (fel bil cyfleustodau gyda’u cyfeiriad arno)
  • Byddwch yn dal i allu casglu cynwysyddion ailgylchu wedi’u harchebu ymlaen llaw, leinwyr compost a sachau glas
  • Y slot amser hwyraf y gallwch ei archebu yw 15 munud cyn amser cau
  • Ni fydd trigolion Sir Ddinbych yn gallu defnyddio’r safle dros dro, ond gallant ddefnyddio canolfan ailgylchu Lôn y Bryn

Angen help i archebu?

Gall unrhyw breswylwyr sydd angen ychydig o gymorth i archebu eu slot amser ymweld â Cysylltu â Wrecsam yn Llyfrgell Wrecsam, neu galw 01978 298989, a gall ein staff eich helpu drwy’r broses.

Nodyn atgoffa oriau agor

Fel bob amser, ym mis Medi, bydd canolfannau ailgylchu Plas Madoc a Brymbo (The Lodge) yn cau yn gynharach am 6pm.

Nid yw oriau gweithredu canolfan ailgylchu Lôn y Bryn yn newid ac mae’n cau am 8pm drwy gydol y flwyddyn.

Gallwch gael manylion llawn amseroedd gweithredu ein canolfannau ailgylchu ar ein gwefan – Canolfan ailgylchu gwastraff y cartref | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol admissions Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Erthygl nesaf Mobile phone Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English