Mae disgwyl i Fysiau Arriva Cymru weithredu cyfres o newidiadau arfaethedig i nifer o wasanaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol, a fydd yn dod i rym ddiwedd mis Mawrth.
Bydd y newidiadau hyn yn cael effaith ar nifer o gymunedau ar draws y Fwrdeistref Sirol, gyda newidiadau arfaethedig i lwybrau ac amlder y gwasanaethau.
Mewn ambell i achos, bydd y gwasanaethau yn cael eu diddymu yn llwyr.
Mae’r gwasanaethau a effeithir fel a ganlyn:
- Gwasanaeth 4 Wrecsam – Rhos – Pen-y-Cae
- Gwasanaeth 4A: Wrecsam – Johnstown – Afoneitha
- Gwasanaeth 4B: Wrecsam – Rhos – Afoneitha
- Gwasanaeth 12: Wrecsam – Brymbo
- Gwasanaeth 26/27: Wrecsam – yr Wyddgrug
- Gwasanaeth 33: Wrecsam – Llai
- Gwasanaeth 42: Wrecsam – Hightown (Diddymu’r Gwasanaeth)
- Gwasanaeth 44: Wrecsam – Lôn Barcas (Diddymu’r Gwasanaeth)
“Bydd nifer o bobl heb fynediad o gwbl at gludiant”
Mae’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, wedi ysgrifennu at Fysiau Arriva yn gofyn iddynt ailystyried eu penderfyniad mewn perthynas â’r gwasanaethau hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell: “Rwyf yn annog Bysiau Arriva i ailystyried eu cynlluniau ar gyfer y gwasanaethau hyn.
“Rwyf wedi ymgynghori ar y newidiadau hyn gydag aelodau etholedig ac mae sawl preswylydd wedi lleisio eu pryderon mewn perthynas â sut y byddai rhai o’r newidiadau yn datgysylltu eu cymunedau.
“Byddai nifer o’r newidiadau arfaethedig yn golygu y bydd sawl ystâd preswyl a gaiff eu gwasanaethu ar hyn o bryd heb fynediad o gwbl at gludiant, sy’n golygu y byddai’n rhaid i’r henoed, unigolion diamddiffyn neu unigolion anabl deithio ymhellach o lawer cyn cyrraedd gorsaf bws a wasanaethir.
“I nifer o bobl, mae hynny’n ddigon i’w rhwystro nhw rhag defnyddio gwasanaeth bws o gwbl, sy’n golygu na fyddent bellach yn gallu dibynnu ar y cysylltiadau cludiant y mae arnynt eu hangen er mwyn cynnal eu hannibyniaeth a’u bywyd o ddydd i ddydd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell, “Er fy mod i’n deall bod y rhain yn benderfyniadau masnachol ar ran Arriva, mae’n rhaid iddynt ystyried yr effaith a gaiff y newidiadau arfaethedig hyn ar nifer o’n cymunedau.
“Hyd yn oed os yw’r gostyngiadau yn golygu cnewyllyn o wasanaeth neu wasanaeth llai, byddai hynny’n darparu cysylltiadau i’r bobl hynny sy’n dibynnu arnyn nhw.”
Ychwanegodd: “Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynlluniau i wella cludiant cyhoeddus yng Nghymru.
“Er fy mod i’n cefnogi’r Papur Gwyn, credaf nad yw’r ddarpariaeth yn ddigonol, a ni fydd yn darparu’r gwelliannau sydd eu hangen i atal y gostyngiad pryderus i’r diwydiant Bysiau Lleol ar draws Cymru.”
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN