Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd newidiadau i fysiau yn “datgysylltu cymunedau”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Bydd newidiadau i fysiau yn “datgysylltu cymunedau”
Pobl a lle

Bydd newidiadau i fysiau yn “datgysylltu cymunedau”

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 26, 2019 12:58 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
bus station
RHANNU

Mae disgwyl i Fysiau Arriva Cymru weithredu cyfres o newidiadau arfaethedig i nifer o wasanaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol, a fydd yn dod i rym ddiwedd mis Mawrth.

Bydd y newidiadau hyn yn cael effaith ar nifer o gymunedau ar draws y Fwrdeistref Sirol, gyda newidiadau arfaethedig i lwybrau ac amlder y gwasanaethau.

Mewn ambell i achos, bydd y gwasanaethau yn cael eu diddymu yn llwyr.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Mae’r gwasanaethau a effeithir fel a ganlyn:

  • Gwasanaeth 4 Wrecsam – Rhos – Pen-y-Cae
  • Gwasanaeth 4A: Wrecsam – Johnstown – Afoneitha
  • Gwasanaeth 4B: Wrecsam – Rhos – Afoneitha
  • Gwasanaeth 12: Wrecsam – Brymbo
  • Gwasanaeth 26/27: Wrecsam – yr Wyddgrug
  • Gwasanaeth 33: Wrecsam – Llai
  • Gwasanaeth 42: Wrecsam – Hightown (Diddymu’r Gwasanaeth)
  • Gwasanaeth 44: Wrecsam – Lôn Barcas (Diddymu’r Gwasanaeth)

“Bydd nifer o bobl heb fynediad o gwbl at gludiant”

Mae’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, wedi ysgrifennu at Fysiau Arriva yn gofyn iddynt ailystyried eu penderfyniad mewn perthynas â’r gwasanaethau hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Bithell: “Rwyf yn annog Bysiau Arriva i ailystyried eu cynlluniau ar gyfer y gwasanaethau hyn.

“Rwyf wedi ymgynghori ar y newidiadau hyn gydag aelodau etholedig ac mae sawl preswylydd wedi lleisio eu pryderon mewn perthynas â sut y byddai rhai o’r newidiadau yn datgysylltu eu cymunedau.

“Byddai nifer o’r newidiadau arfaethedig yn golygu y bydd sawl ystâd preswyl a gaiff eu gwasanaethu ar hyn o bryd heb fynediad o gwbl at gludiant, sy’n golygu y byddai’n rhaid i’r henoed, unigolion diamddiffyn neu unigolion anabl deithio ymhellach o lawer cyn cyrraedd gorsaf bws a wasanaethir.

“I nifer o bobl, mae hynny’n ddigon i’w rhwystro nhw rhag defnyddio gwasanaeth bws o gwbl, sy’n golygu na fyddent bellach yn gallu dibynnu ar y cysylltiadau cludiant y mae arnynt eu hangen er mwyn cynnal eu hannibyniaeth a’u bywyd o ddydd i ddydd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell, “Er fy mod i’n deall bod y rhain yn benderfyniadau masnachol ar ran Arriva, mae’n rhaid iddynt ystyried yr effaith a gaiff y newidiadau arfaethedig hyn ar nifer o’n cymunedau.

“Hyd yn oed os yw’r gostyngiadau yn golygu cnewyllyn o wasanaeth neu wasanaeth llai, byddai hynny’n darparu cysylltiadau i’r bobl hynny sy’n dibynnu arnyn nhw.”

Ychwanegodd: “Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynlluniau i wella cludiant cyhoeddus yng Nghymru.

“Er fy mod i’n cefnogi’r Papur Gwyn, credaf nad yw’r ddarpariaeth yn ddigonol, a ni fydd yn darparu’r gwelliannau sydd eu hangen i atal y gostyngiad pryderus i’r diwydiant Bysiau Lleol ar draws Cymru.”

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Edrychwch ar beth rydym wedi ei wneud gyda’r cartrefi gwag hyn Edrychwch ar beth rydym wedi ei wneud gyda’r cartrefi gwag hyn
Erthygl nesaf Spring Clean Cymru Mae Gwanwyn Glân Cymru wedi cychwyn – dyma sut i fod yn un o’r #ArwyrSbwriel

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English