Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Gwanwyn Glân Cymru wedi cychwyn – dyma sut i fod yn un o’r #ArwyrSbwriel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae Gwanwyn Glân Cymru wedi cychwyn – dyma sut i fod yn un o’r #ArwyrSbwriel
ArallPobl a lle

Mae Gwanwyn Glân Cymru wedi cychwyn – dyma sut i fod yn un o’r #ArwyrSbwriel

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 26, 2019 2:25 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Spring Clean Cymru
RHANNU

Cychwynnodd Gwanwyn Glân Cymru ddydd Gwener, Mawrth 22 fel rhan ail Wanwyn Glân Prydain Fawr.

Mae glanhau’n digwydd ar draws y DU rhwng Mawrth 22 ac Ebrill 23, wrth i Keep Britain Tidy a Chadwch Gymru’n Daclus geisio dwyn ‘Arwyr Sbwriel’ ynghyd i gasglu a gwaredu sbwriel yn ddiogel oddi ar ein strydoedd, ein parciau a’n traethau.., gyda’r bwriad o ailgylchu cymaint o hwn â phosib.

Mae sawl cyfarfod eisoes wedi ei gynllunio ar draws ardal Wrecsam, ac mae manylion ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus – mae tri chyfarfod yn digwydd yn ein parciau gwledig (Stryt Las ar 2 Ebrill am 1.30pm, Dyffryn Moss ar 7 Ebrill am 10am, a Pharc Acton ar 9 Ebrill am 10am).

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Bydd y rheiny fydd yn cymryd rhan yn #ArwyrSbwriel 2019… y llynedd, cynhaliwyd 13,000 o ddigwyddiadau ar draws y DU gyda 371,556 o bobl yn rhan o hynny, a’r nod yw i’r gwanwyn glân hwn fod yn fwy ac yn well y tro hwn.

Os hoffech ychydig o ysbrydoliaeth i gymryd rhan, beth am drigolion lleol Wrecsam, Brian Phillips a’i wyres Isla Phillips-Jenkins, wnaeth gasglu sbwriel wrth iddynt gerdded i’r ysgol dros gyfnod o wythnos. Gallwch weld eu canlyniadau gwych yn y llun isod 🙂

Litter Waste Spring Clean

Cofnododd yr RSPCA fwy na 7000 o ddigwyddiadau lle cafodd anifeiliaid niwed o ganlyniad i sbwriel y llynedd, ac mae 80 y cant o sbwriel sy’n canfod ei ffordd i’r môr yn cael ei ollwng ar y tir.

Mae’r fideo hon gan Keep Britain Tidy o bennill gan Steve Backshall, yn dangos hyn, o dan yr enw Jemima Glitter and the voyage of Bob the Bottle.

“If only I’d known she too late reflected,
Everything on our planet is all connected,
And now our seas have been infected.”

Gan mai ar blastig mae’r bai am y rhan fwyaf o’r problemau hyn, rydym yn gwneud newidiadau bach ond pwysig yng Nghyngor Wrecsam fel rhan o’n hymrwymiad i dorri’n defnydd o blastig untro.

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni wedi cyflwyno nifer o newidiadau er mwyn lleihau plastig untro ar draws y fwrdeistref sirol – gyda phwyslais ar leihau faint rydyn ni’n ei ddefnyddio yn ein hysgolion ac yn adeiladau a chyfleusterau eraill y Cyngor.

“Rydyn ni eisiau arwain ar hyn, a byddwn yn annog pawb yn Wrecsam – yn gartrefi a busnesau – i gymryd rhan drwy leihau faint o blastig untro maen nhw’n ei ddefnyddio hefyd.

“Mae pobl yn Wrecsam yn gwneud gwaith gwych wrth ailgylchu, a dyma gam arall y gallant ei gymryd gyda ni i helpu’r amgylchedd a chreu gwell dyfodol.”

Eisiau dysgu mwy am blastig untro? Rhowch dro ar ein cwis i weld faint rydych yn ei wybod…

[interact id=”5c5063a975b7dc00142e6072″ type=”quiz”]

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol bus station Bydd newidiadau i fysiau yn “datgysylltu cymunedau”
Erthygl nesaf Tŷ Pawb yn croesawu Gŵyl dalent Tŷ Pawb yn croesawu Gŵyl dalent

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Hydref 8, 2026
All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Longest Yarn in Wrexham
DigwyddiadauFideoPobl a lle

Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth

Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English