Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Edrychwch ar beth rydym wedi ei wneud gyda’r cartrefi gwag hyn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Edrychwch ar beth rydym wedi ei wneud gyda’r cartrefi gwag hyn
Pobl a lleY cyngor

Edrychwch ar beth rydym wedi ei wneud gyda’r cartrefi gwag hyn

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 26, 2019 9:51 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Edrychwch ar beth rydym wedi ei wneud gyda’r cartrefi gwag hyn
RHANNU

Ydych chi’n un o’r tenantiaid sydd wedi symud i un o’n tai cyngor a fu gynt yn wag?

Cynnwys
  • “Hapus iawn gyda safon y gwaith”
  • “Mae’r gwelliannau yn wirioneddol wych”
  • Pwy all gofrestru ar gyfer eiddo’r cyngor?

Os felly, byddwch wedi sylwi faint o waith rydym wedi ei wneud i ddiweddaru a gwella’r tai.

Os nad ydych – darllenwch y canlynol!

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Yn ddiweddar, rydym wedi newid y ffordd rydym yn diweddaru ein cartrefi gwag, sy’n golygu ein bod yn eu diweddaru y tu mewn a’r tu allan, yn hytrach na’u hailwampio’n sylfaenol yn unig.

Mae hyn yn golygu pethau fel ffitiadau a nodweddion newydd – fel côt newydd o baent, ail-blastro’r tu allan a gwella ceginau ac ystafelloedd ymolchi.

Mae’n waith mwy manwl bellach, yn hytrach nac ychydig bach o waith fan hyn a fan draw. Felly mae’r gwaith yn cymryd mwy o amser nag o’r blaen, ond mae llawer mwy yn cael ei wneud.

Fe wnaethom siarad ag un tenant ar ôl iddynt symud i dŷ cyngor gwag yr ydym wedi ei ddiweddaru.

“Hapus iawn gyda safon y gwaith”

Penderfynodd Jacqueline Fisher, oedd yn arfer byw yn un o eiddo’r cyngor ar Oak Drive, Acton, symud i le bach ar Derwen Close wedi iddi hi a’i gŵr ymddeol, a chanfod eu hunain mewn cartref mwy nag oedd arnynt ei angen.

Cafodd yr eiddo ar Derwent Close ei ailwampio a’i ddiweddaru gan ein tîm tai cyn i Mrs Fisher symud i mewn iddo ddiwedd Chwefror.

Edrychwch ar beth rydym wedi ei wneud gyda’r cartrefi gwag hyn
Edrychwch ar beth rydym wedi ei wneud gyda’r cartrefi gwag hyn

Dywedodd: “Pan welais yr adeilad o’r tu allan am y tro cyntaf, roeddwn yn meddwl y byddai’n fach ac yn dywyll, ond pan es i mewn sylweddolais pa mor fawr oedd yr ystafelloedd – cefais fy synnu ar yr ochr orau. Roeddwn yn hapus iawn gyda safon y gwaith a wnaed hefyd.

“Roedd symud yn weddol hawdd gan ei fod yn agos, ac mae pethau wedi eu gwneud mor dda dim ond mater o roi pethau yn eu lle oedd hi. Mae’r cyngor wedi bod o gymorth mawr – maent wedi gwrando ar beth oedd ei eisiau arnaf i.”

Ychwanegodd Mrs Fisher os oes unrhyw denantiaid cyngor yn ystyried symud i eiddo llai, y dylent yn bendant ystyried cysylltu gyda’r tîm tai.

“Mae symud i eiddo llai wedi bod yn gyfleus iawn ac mae’n hawdd ei reoli. Gall fod yn dipyn o beth, ond aeth popeth i’w le yn iawn.

“Ac mae mantais i’r cyngor hefyd, maent yn cael tŷ tair ystafell wely yn ôl sydd yn addas i deulu.

“Mae’r gwelliannau yn wirioneddol wych”

Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Mae’n hyfryd clywed gan denantiaid sydd wedi symud i eiddo oedd yn arfer bod yn wag ac wedi elwa o faint o waith rydyn ni wedi ei wneud yno.

“Rydym yn gorfod gwneud llawer mwy o waith nawr i’w gymharu ag yn y gorffennol, ac mae’r gwelliannau sydd wedi eu gwneud yn ein heiddo gwag yn wirioneddol wych – ac mae gennym denantiaid bodlon iawn.”

Pwy all gofrestru ar gyfer eiddo’r cyngor?

Myth cyffredin yw mai dim ond pobl ar incwm penodol, neu sy’n derbyn budd-daliadau all gofrestru diddordeb mewn tŷ cyngor.

Nid dyna’r gwir – gall unrhyw un wneud cais am gartref cyngor.

Yn amlwg, rhaid i ni roi blaenoriaeth o ran angen, a meini prawf penodol, fel sefyllfa fyw, budd-daliadau, incwm ac ati.

Er mwyn ychwanegu eich enw at y rhestr aros, gwnewch gais drwy’n gwefan.

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ffabrig gwych! Gwelwch sut mae'r ysgol leol hon yn cael ei hysbrydoli gan arddangosfeydd newydd Tŷ Pawb Ffabrig gwych! Gwelwch sut mae’r ysgol leol hon yn cael ei hysbrydoli gan arddangosfeydd newydd Tŷ Pawb
Erthygl nesaf bus station Bydd newidiadau i fysiau yn “datgysylltu cymunedau”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam letters at Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English