Mae dadl gref mai Wrecsam yw cartref ysbrydol pêl-droed yng Nghymru.
Mae gennym ni, ynghyd â phartneriaid allweddol gan gynnwys Clwb Pêl-droed Wrecsam, Prifysgol Glyndŵr a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu proffil pêl-droed yn Wrecsam yn sylweddol.
Mae’r cynlluniau hynny’n cynnwys
- Gwella porth Ffordd yr Wyddgrug sy’n arwain i mewn i’r dref, gan gynnwys yr orsaf drenau a’r Cae Ras;
- Canolfan datblygu pêl-droed newydd ym Mharc y Glowyr;
- Cynlluniau – trafodwyd yn ddiweddar gan Gynulliad Cymru – i ddatblygu Amgueddfa Pêl‑droed Cenedlaethol yn Wrecsam;
- Gwaith gan y Cyngor a Chlwb Pêl-droed Wrecsam i sicrhau lleoliad parhaol ar gyfer cae hyfforddi
Yn ogystal â’r cynlluniau uchod, byddwn hefyd yn edrych ar strategaeth a fydd yn ein gweld yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-Droed Cymru i edrych ar gynlluniau ar gyfer canolfannau pêl-droed cymunedol newydd ar draws y fwrdeistref sirol.
Ym mis Ionawr, bydd ein Bwrdd Gweithredol yn edrych ar gynigion i sefydlu prosiect peilot ar gyfer dwy ganolfan bêl-droed cymunedol newydd – un yn ne’r fwrdeistref sirol ac un yn y gorllewin – a fydd yn ein gweld ni a Chymdeithas Bêl-Droed Cymru yn gweithio’n agos gyda chlybiau lleol, ysgolion a’u cyrff llywodraethu i wella caeau a chyfleusterau.
Rydym yn arbennig o awyddus i greu cysylltiadau rhwng disgyblion ysgol a datblygu timau pêl-droed ieuenctid y tu allan i oriau ysgol, gan ddefnyddio cyfleusterau ysgol a gweithio ochr yn ochr â “chlystyrau” o glybiau a darparwyr.
Mae’r cynlluniau hyn yn dilyn ein hadolygiad o sut rydym yn rheoli caeau pêl-droed a chyfleusterau ystafelloedd newid yn ôl yng ngwanwyn 2017, ac wedi hynny gwnaethom benderfynu edrych ar ffyrdd newydd a gwell o reoli a datblygu pêl-droed llawr gwlad yn y fwrdeistref sirol.
Caiff y cynigion eu trafod gan y Bwrdd Gweithredol ddydd Mawrth, 8 Ionawr.
Os cânt eu cymeradwyo gan y Bwrdd, byddai’r prosiect peilot – wedi’i gefnogi gan £50,000 gan Lywodraeth Cymru – yn rhedeg am flwyddyn, ac wedyn cael ei asesu i weld pa mor llwyddiannus oedd model y ganolfan.
Prif nod y bartneriaeth fyddai helpu clybiau i fod yn fwy hunangynhaliol, gwella cyfleusterau cymunedol a rhoi cyfle a chyfleusterau i bobl ifanc ac oedolion sydd eu hangen arnynt i wella eu hiechyd.
Ond rhai o’r elfennau penodol y byddwn yn edrych arnynt yn fanwl yw:
- Modelau rheoli cae a phafiliwn newydd i’r clwb
- Gwella modelau safleoedd ysgol – sicrhau caeau o ansawdd gwell ar gyfer datblygu chwaraeon, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc a merched
- Rhagor o gaeau 3G addas i’r diben
- Gweithredu dull rheoli asedau o ran mannau awyr agored
Ond byddwn yn dal i gynnal a chadw ac archebu caeau fel arfer, a byddwn yn parhau i gysylltu gyda phob clwb pêl-droed i weld sut gallwn eu helpu i ddatblygu.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR