O ddydd Sadwrn (17 Gorffennaf), bydd 1bws yn lansio, sy’n golygu y bydd un tocyn yn eich caniatáu i deithio ar bob bws ar draws Gogledd Cymru.
Unwaith y bydd teithwyr wedi prynu eu tocyn 1bws gan y gyrrwr ar eu siwrnai gyntaf o’r dydd, bydd y tocyn yn caniatáu iddynt deithio ar fysiau ar draws Gogledd Cymru.
Pris tocyn oedolyn fydd £5.70, £3.70 am docyn plentyn (neu unigolyn ifanc gyda Fy Ngherdyn Teithio) a £3.70 i ddeiliaid tocynnau bws consesiynol Lloegr a’r Alban.
Mae tocyn teulu 1bws ar gael am £12
Un o’r rhesymau y mae pobl yn gyndyn o roi cynnig ar ddefnyddio bysiau yw dryswch ynghylch pa docyn i’w brynu. Faint fydd y gost? Pryd gellir ei ddefnyddio? Pwy sy’n gweithredu’r bysiau? A fydd fy nhocyn yn ddilys? Mae’r cwestiynau hyn i gyd yn atal pobl rhag defnyddio bysiau.
Mae teithio ar fysiau mor syml gydag 1bws. Un tocyn, am y diwrnod cyfan, i’w ddefnyddio ar fysiau Gogledd Cymru yn Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, – ac ar fysiau o Ogledd Cymru i Gaer, Tre-groes a Machynlleth.
Mae bysiau’n gwasanaethu’r rhan fwyaf o’r rhanbarth ac mae modd archwilio Arfordir Gogledd Cymru, Eryri, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae hon yn fenter wych ac rydym yn falch iawn o’i chefnogi. Bydd yn helpu i annog pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddefnyddio ein rhwydwaith bws.
“Mae’r fenter hon yn ffordd wych o annog pobl i ddefnyddio bysiau ac yn caniatáu mynediad at gefn gwlad Gogledd Cymru dros yr haf mewn modd sy’n gwarchod yr amgylchedd.
“Mae’n enghraifft wych o’r buddion o weithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol, gweithredwyr bws a Thrafnidiaeth Cymru. Dyma’r tro cyntaf i ni fedru darparu a hyrwyddo tocyn diwrnod sengl ar bob gwasanaeth, ac i’r gweithredwyr mawr a bach y mae’r diolch am eu hymrwymiad i wella mynediad ar fws.”
Mae’r amserlenni ar gyfer pob bws yng Ngogledd Cymru ar gael ar-lein ar http://bustimes.org neu traveline.cymru; neu dros y ffôn ar 0800 464 00 00
Mae tocyn 1bws yn ddilys ar bob gwasanaeth bws lleol sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam) gan eithrio gwasanaeth rhif 28 rhwng yr Wyddgrug a’r Fflint.
Nid yw’n ddilys ar wasanaethau twristiaid a gaiff eu gweithredu gan fysiau awyr agored, ar wasanaethau National Express a gwasanaethau parcio a theithio.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN