Disgiau Llif Gadwyn ar gyfer Peiriannau Llifanu Ongl. Perygl o anaf difrifol neu farwolaeth

Byddwch yn wyliadwrus o ddisgiau llif gadwyn a gaiff eu gwerthu fel atodiadau i beiriannau llifanu ongl.  Nid yw’r rhain yn gyfreithlon ac maent wedi achosi anafiadau difrifol i bobl ar draws y DU.  Os bydd y disg yn cydio yn yr arwyneb torri, gallai’r peiriant llifanu neidio neu droi’n sydyn a chael ei rwygo o’ch dwylo.

Os oes gennych chi ddisg llif gadwyn fel y rhai yn y lluniau:

  1. Peidiwch â’i ddefnyddio.
  2. Dychwelwch y disg i lle bynnag y gwnaethoch chi ei brynu a gofynnwch am ad-daliad.

Dylai unrhyw fusnes sy’n gwerthu’r cynnyrch hyn eu tynnu oddi ar y farchnad ar unwaith gan nad ydynt yn cydymffurfio â Rheoliadau Cyflenwi Peiriannau (Diogelwch) 2008.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Anogir aelodau o’r cyhoedd i roi gwybod i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth am unrhyw fusnes sy’n gwerthu’r cynnyrch hyn drwy ymweld â https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Defnyddwyr/ neu ffonio 0808 223 1133.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN