Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd wych. Ailgylcha. Mae’r 3 uchaf yn wych, ond gadewch i ni anelu am rif 1!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lle Y cyngor
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Bydd wych. Ailgylcha. Mae’r 3 uchaf yn wych, ond gadewch i ni anelu am rif 1!
Y cyngor

Bydd wych. Ailgylcha. Mae’r 3 uchaf yn wych, ond gadewch i ni anelu am rif 1!

Diweddarwyd diwethaf: 2020/09/15 at 3:45 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Byddwch yn Arwr. Ailgylchwch. Mae’r 3 uchaf yn wych, ond gadewch i ni anelu am rif 1!
RHANNU

Mae hi’n ddiwrnod cyntaf Wythnos Ailgylchu 2020 heddiw (21 – 27 Medi), ac mae gennym ni lawer i fod yn falch ohono eisoes yng Nghymru.

Cynnwys
Mae’r byd angen arwyr rŵan, fwy nag erioed…Argymhellion i arwyr i sicrhau fod Cymru’n cyrraedd rhif un

Gwlad fechan yw Cymru, ond o ran ailgylchu, rydym ni’n cyflawni’n well na’r disgwyl. Cymru yw’r drydedd wlad orau i ailgylchu yn y byd, a rŵan mae Cyngor Wrecsam yn cefnogi ymgyrch Cymru gyfan i sicrhau mai ni yw’r gorau yn y byd.

Gadewch i ni gyflawni hyn gyda’n gilydd 🙂

Mae’r byd angen arwyr rŵan, fwy nag erioed…

Yn Wrecsam, 69.62% oedd ein ffigur ailgylchu mwyaf diweddar, ac o ystyried mai dim ond 3% oeddem ni’n ei ailgylchu nôl yn 2020, mae’n amlwg ein bod ar y trywydd iawn. Ond erbyn hyn, rydym ni eisiau mynd yr ail filltir ac rydym eisiau i chi ddod gyda ni ar y siwrnai.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae Wythnos Ailgylchu yn amser perffaith i atgoffa’n hunain o’r pethau y gallwn ac na allwn ni eu hailgylchu. Rydym yn deall bod llawer o bethau i bobl gofio a gall hyn ar brydiau fod yn llethol, ond rydym i gyd angen cymryd rhan.

‘Bydd wych…Ailgylcha’ yw’r cais i ni yng Nghymru eleni. Fe ddylem fod yn falch o’n hymdrechion ailgylchu hyd yn hyn, ond mae’n rhaid i ni ddyfalbarhau ac anelu i wneud hyd yn oed yn well. Gadewch i ni barhau i ailgylchu popeth y gallwn ni o amgylch y cartref, er mwyn gwella ein ffigurau ailgylchu lleol a helpu i sicrhau fod cymru yn cyrraedd rhif un.”

Bydd wych. Ailgylcha. Mae’r 3 uchaf yn wych, ond gadewch i ni anelu am rif 1!

Argymhellion i arwyr i sicrhau fod Cymru’n cyrraedd rhif un

Dyma argymhellion defnyddiol all ein helpu i fod yn well:

• Ailgylchu ein gwastraff bwyd yw un o’r ffyrdd hawsaf o roi hwb i’n cyfradd ailgylchu. Rhowch unrhyw wastraff bwyd – waeth pa mor fach ydyw – yn eich cadi gwastraff bwyd i sicrhau ei fod yn cael ei gasglu bob wythnos.
• Nid yw ailgylchu yn stopio wrth ddrws y gegin – cofiwch ailgylchu eitemau o ystafelloedd eraill hefyd. Fe synnech chi faint o wastraff yr ystafell ymolchi megis poteli siampŵ, cyflyrydd, sebon llaw a sebon cawod y gellir ei ailgylchu.
• Mae’r mwyafrif o bobl yn gwybod bod modd ailgylchu poteli, caniau a phapur a cherdyn, ond peidiwch ag anghofio y gallwch chi ailgylchu eitemau mwy anarferol megis erosolau gwag. Ewch i www.wrecsam.gov.uk/ailgylchu os nad ydych chi’n siŵr beth ydych chi’n cael ei ailgylchu neu beidio.
• Gwasgwch boteli plastig a chardfwrdd er mwyn arbed lle yn eich bag, bin, bocs neu gadi ailgylchu.
• Golchwch eich poteli, caniau, hambyrddau a thybiau yn sydyn cyn eu hailgylchu i gael gwared ar unrhyw wastraff bwyd – does dim angen defnyddio dŵr tap, gallwch ddefnyddio’r dŵr yn y fowlen golchi llestri.
• Os ydi Cymru am gyrraedd rhif un, mae’n rhaid i bawb ohonom chwarae ein rhan. Mae hyn yn golygu lledaenu’r gair ar gyfryngau cymdeithasol drwy rannu eich lluniau ac argymhellion ailgylchu gan ddefnyddio’r hashnod #ArwyrAilgylchu

Rydym ni’n mynd i ddarparu rhagor o wybodaeth ar ‘Bydd wych’ trwy gydol yr wythnos, felly cadwch lygad 🙂

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Teaching Assistant Job Children Work Gyda phrofiad o weithio gyda neu ofalu am blant? Edrychwch ar y swyddi hyn…
Erthygl nesaf Flu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl gymwys yng Nghymru i gael brechlyn ffliw am ddim

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lle Y cyngor Medi 5, 2025
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle Medi 4, 2025
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall Medi 3, 2025
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall Medi 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lleY cyngor

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25

Medi 5, 2025
Recycling
Y cyngor

Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…

Awst 30, 2025
admissions
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Awst 29, 2025
Red Ensign
Pobl a lleY cyngor

Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Awst 27, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English