Wrth i bobl ddechrau meddwl am y Nadolig, roeddem ni’n meddwl y byddai’n amser da i ddangos i chi sut y gallwch fod yn greadigol dros gyfnod yr ŵyl i gadw draw o blastig untro, a gaiff eu defnyddio yn nifer fawr o’r traddodiadau yr ydym bellach yn gyfarwydd iawn â hwy.
Rydym yn deall nad oes gan bawb yr amser i wneud bob un o’n hawgrymiadau, ond os oes gennych unrhyw amser rhydd i roi cynnig ar rai ohonynt, fe welwch eu bod yn weithgareddau llawn hwyl y gallwch eu mwynhau ynghyd â gweddill eich teulu 🙂
Ein hawgrym cyntaf yw:
Gwneud eich craceri Nadolig eich hun
Mae’r rhan fwyaf o graceri Nadolig yn cynnwys teganau plastig sydd ond yn ennyn ein diddordeb am ychydig funudau, ac yn aml iawn mae’r teganau yn annefnyddiol ac felly’n cael eu taflu.
Mae cryn dipyn o sylw wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar ynghylch yr holl deganau craceri a gaiff eu taflu bob blwyddyn, ac er nad ydym yn gallu cadarnhau unrhyw un o’r ffigyrau a nodwyd, mae hyn yn sicr yn broblem fawr.
Ateb i’r broblem fyddai creu eich craceri Nadolig eich hun, sy’n llawer haws na’r disgwyl ac yn llawer o hwyl hefyd.
Mae canllawiau gwych ar Youtube yn dangos sut y gallwch wneud hyn, ond cofiwch ddefnyddio deunydd y gellir eu hailgylchu a chadw draw o bapurau wedi’u lamineiddio, gliter ac ategolion plastig.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Beth am syfrdanu rhywun â’ch sgiliau creadigol? Neu beth am gynnal cystadleuaeth gyda gweddill eich teulu neu ffrindiau i weld pwy sy’n gallu creu’r cracer gorau?
Rhowch gyfle i’r rhai iau yn eich teulu i gymryd rhan drwy ofyn iddynt ysgrifennu negeseuon/jôcs Nadoligaidd i’w cynnwys yn y craceri, sydd hefyd yn ychwanegu elfen bersonol.
Yn ogystal â hynny, drwy wneud eich craceri eich hun, yn hytrach nag anrheg blastig, gallwch chi roi rhywbeth defnyddiol yn y craceri i’ch teulu neu ffrindiau. Maent yn siŵr o gael mwy o ddefnydd allan o anrheg gennych chi na rhyw hen io-io plastig tila! 🙂
Lapiwch eich anrhegion mewn modd ecogyfeillgar
Rydym wedi dweud wrthych yn ddiweddar na ellir ailgylchu bob math o bapur lapio. Darllenwch yr erthygl hon i’ch atgoffa.
Un ffordd o sicrhau y byddwch yn gallu ailgylchu eich papur lapio yw drwy eu lapio mewn modd ecogyfeillgar yn y lle cyntaf.
Mae lapio eich anrhegion mewn papur brown a llinyn yn gwneud iddynt edrych yn smart ac yn unigryw. Neu, os hoffech ychwanegu ychydig o liw iddynt, beth am ddefnyddio celyn neu bô y gellir ei ailddefnyddio.
Syniad arall ffynci yw defnyddio hen gylchgrawn comig i lapio eich anrhegion. Rhoddom gynnig ar hyn yn ddiweddar, ac roeddem wedi dotio atynt.
Addurniadau bwytadwy ar gyfer y goeden Nadolig
A ydych chi erioed wedi ystyried defnyddio addurniadau bwytadwy yn hytrach na ffigurynnau plastig ar gyfer y goeden Nadolig?
Beth am osod her i’ch hunan i weld pa mor greadigol y gallwch chi fod? 🙂
Hyd yn oed os nad ydych chi’n berson creadigol, gallwch bobi bisgedi teisen frau i siapiau calon neu goeden Nadolig yn hawdd. Ond cofiwch wneud twll yn y bisgedi cyn eu pobi nhw er mwyn i chi allu eu hongian nhw â llinyn.
Dyma ffordd wych arall i gynnwys y teulu cyfan, a chewch ddanteithion blasus! 🙂
A wnaethoch chi fwynhau’r awgrymiadau hyn? Os felly, gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau rhoi cynnig arnynt gyda’ch ffrindiau a’ch teulu.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN