Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwybodaeth gynnar i ailgylchu’n ddoeth dros y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwybodaeth gynnar i ailgylchu’n ddoeth dros y Nadolig
Y cyngor

Gwybodaeth gynnar i ailgylchu’n ddoeth dros y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 1, 2019 1:35 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Christmas Recycling Presents Gifts
RHANNU

Mae’n debyg eich bod chi eisoes wedi sylwi ar y nwyddau Nadoligaidd sydd wedi cychwyn cael eu harddangos yn y siopau a’r archfarchnadoedd!

Cynnwys
  • Papur lapio
  • Cardbord
  • Ailddefnyddio eitemau
  • Poteli a chaniau
  • Gwastraff Bwyd
  • Ac os na allwch chi ei ailgylchu ar ymyl y palmant…

Ac os ydych chi’n berson sy’n cynllunio ymlaen llaw, mae’n debyg eich bod chi eisoes wedi cychwyn meddwl am y Nadolig…efallai eich bod chi hyd yn oed wedi prynu ambell beth yn barod.

Ond pan fyddwch chi’n prynu pethau ar gyfer y Nadolig, mae’n bwysig ystyried a oes posib ailgylchu’r pethau hyn. Rydym ni’n parhau i wella o ran ailgylchu yn Wrecsam, felly mae’n bwysig ein bod ni’n cadw’r momentwm drwy gydol yr Wyl.

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Meddai’r Cynghorydd A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym yn gofyn i bobl feddwl am ba ddeunyddiau y mae’n bosib eu hailgylchu wrth iddyn nhw brynu pethau ar gyfer y Nadolig. Mae papur lapio’n enghraifft dda, gan nad oes posib ailgylchu pob math ohono, ond rydym ni am roi’r wybodaeth angenrheidiol i chi er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau cytbwys.

“Wrth i ni agosáu at y Nadolig, fe fyddwch chi’n wynebu mwy o ddeunyddiau y gallwch chi eu hailgylchu nag arfer. Felly da chi, darllenwch y wybodaeth hon i’ch helpu chi i ddeall pa ddeunyddiau y gallwch chi ei ailgylchu a lle i fynd â nhw.”

…sy’n ein harwain yn daclus at ein pwynt cyntaf.

Papur lapio

Fel y soniodd y Cynghorydd Bithell, dydi pob math o bapur lapio ddim wedi’i wneud o ddeunydd y gallwch chi ei ailgylchu. Allwch chi ddim ailgylchu’r papur ffoil sgleiniog yna, felly peidiwch â’i brynu. Allwch chi chwaith ddim ailgylchu papur lapio gyda gliter arno.

Mae’r rhan fwyaf o bapur lapio disglair arall wedi’i lamineiddio, ac ni ellir ei ailgylchu chwaith. Hefyd, ceisiwch edrych am unrhyw ychwanegiadau plastig ac osgowch y rhain.

Y newyddion da ydi bod pob math arall o bapur lapio’n iawn i’w ailgylchu. Os byddwch yn cadw draw o ffoil, gliter, papur wedi’i lamineiddio ac unrhyw ychwanegiadau plastig, dylech allu ailgylchu’r holl bapur lapio pan fyddwch wedi gorffen ei ddefnyddio… gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu unrhyw selotep 🙂

Awgrym: Fe allwch chi ailgylchu cardiau Nadolig (heb gliter ac ar ôl tynnu unrhyw rubanau) yn ogystal ag amlenni gyda’ch papur yn eich blychau i’w casglu ar ymyl y palmant. Fe allwch chi ailgylchu bagiau anrhegion cerdyn a phapur fel yma hefyd – ond cofiwch dynnu unrhyw handlenni nad oes posib eu hailgylchu.

Cardbord

Mae yna wastad ddigonedd o flychau cardbord ar hyd y lle adeg y Nadolig, ac mae’n bwysig ailgylchu’r rhain hefyd. Darllenwch y canllawiau hyn ar ailgylchu cardbord yn Wrecsam, i’ch helpu i gadw ar y trywydd cywir.

Awgrym: Tynnwch unrhyw dâp a styffylau oddi ar focsys cardbord cyn eu hailgylchu nhw.

Ailddefnyddio eitemau

Allwch chi ddim ailgylchu rhubanau, felly os byddwch chi’n defnyddio’r rhain, ystyriwch eu cadw i’w hailddefnyddio’r flwyddyn nesaf.

Os bydd rhywun yn rhoi teledu neu chwaraewr CDs newydd i chi’n anrheg Nadolig, meddyliwch beth allwch chi ei wneud gyda’r hen rai. Fe fyddai siop ailddefnyddio Nightingale House yng nghanolfan ailgylchu Bryn Lane wth eu boddau’n eu cymryd oddi arnoch chi.

Gallwch hefyd roi unrhyw anrhegion Nadolig nad ydych chi mo’u heisiau i’r siop ailddefnyddio. Fe fyddan nhw’n siŵr o fod yn ddiolchgar iawn.

Poteli a chaniau

Mae’n debyg y bydd gennych chi fwy o boteli gwydr, poteli plastig a chaniau alwminiwm nag arfer hefyd dros y Nadolig, ond cofiwch eu hailgylchu yn yr un modd ag y byddech chi’n ei wneud weddill y flwyddyn.

Os bydd eich bocsys ailgylchu chi’n gorlenwi, fe allwch chi adael unrhyw ddeunyddiau dros ben i’w hailgylchu mewn bagiau plastig clir wrth ymyl eich blychau ailgylchu ar y diwrnod casglu, ac fe awn ni â nhw i’w hailgylchu (gan adael y bagiau plastig i chi eu hailddefnyddio). Ond os oes gennych chi ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch wahanu’r deunyddiau fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer…er enghraifft, os oes gennych chi boteli gwydr a phlastig dros ben, rhowch y rhai plastig mewn un bag clir a’r rhai gwydr mewn bag clir ar wahân.

Awgrym: Fe allwch chi ailgylchu tuniau fferins mawr gyda’ch caniau a’ch plastigau yn eich blwch olwynion/blychau ailgylchu.

Gwastraff Bwyd

Mae’r Nadolig hefyd yn golygu y bydd gennych chi lawer o esgyrn twrci a bwyd dros ben y gallwch chi eu hailgylchu yn eich cadi bwyd, felly peidiwch ag anghofio ailgylchu’ch sbarion.

I atgoffa’ch hun o ba fwydydd y gallwch chi eu hailgylchu, cymerwch olwg ar y blog yma.

Awgrym: Fe allwch chi fynd â choed Nadolig go iawn i gael eu hailgylchu yn ein canolfannau ailgylchu, os na wnân nhw ffitio yn eich bin gwyrdd.

Ac os na allwch chi ei ailgylchu ar ymyl y palmant…

Fe allwch chi fynd â nifer o eitemau eraill i un o’n canolfannau ailgylchu. Cymerwch olwg ar y rhestr hon o ddeunyddiau y gallwch chi eu hailgylchu yn ein canolfannau ailgylchu.

Diolch i chi am roi o’ch amser i ddarllen y blog yma, ac fel arfer, diolch am ailgylchu 🙂

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Community Chest Cyllid ar gael ar gyfer grwpiau chwaraeon drwy’r Gist Gymunedol
Erthygl nesaf Engineer Environment Job Vacancy Swydd lle mae pob diwrnod yn wahanol…saernïwch eich dyfodol gyda’r cyfle gwaith hwn!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English