Mae Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio trigolion i fod yn ofalus os daw rhywun i gynnig diheintio eu dreif i atal lledaeniad COVID-19 ac i’ch amddiffyn chi yn eich cartref.
Dydy hyn yn ddim ond sgam a thwyll. Ni all chwistrellu’r fath gynnyrch ar eich dreif eich cadw na’ch amddiffyn chi na’ch anwyliaid rhag coronafeirws.
Credir fod troseddwyr yn defnyddio glanhawr cartref i lanhau’r dreif ac yn fwriadol yn targedu cartrefi’r henoed a’r diamddiffyn. Mae’r troseddwyr yma yn codi crocbris am wneud y gwaith di-fudd yma.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Daeth adroddiadau o rannau eraill o’r wlad yn dilyn y sgam yma ac mae hyn yn cynnwys Wrecsam, ble gwelwyd darparwr gofal o Wrecsam yr wythnos ddiwethaf yn tynnu sylw Safonau Masnach at ymgais i wneud gwaith ar ddreif cartref gwraig ddiamddiffyn o dan eu gofal nhw.
Yn ffodus, llwyddodd y darparwr gofal oedd wedi bod ar hyfforddiant Ymgyrch REPEAT i ymyrryd ac atal y gwaith hwn rhag digwydd. Heb ei ymyrraeth gyflym, gallai’r wraig hon fod wedi colli cannoedd o bunnoedd.
Dywedodd Lawrence Isted, Prif Swyddog Cynllunio a Rheoleiddio: “Yn ystod yr adegau anodd yma, mae’n bwysig cofio na ddylai busnesau fod yn dod at eich cartref i gynnig gwneud gwaith ar eich eiddo na’ch gardd.
“Mae’n gyfle da i’n hatgoffa i gadw llygad ar ein teulu a’n cymdogion yn ystod y cyfnod hwn ac adrodd am unrhyw beth amheus gan ddefnyddio’r manylion isod.”
Os ydych eisiau adrodd am rywbeth amheus yn eich tyb chi, cysylltwch â naill ai Cyngor Ar Bopeth ar 03454 040506 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Gallwch ddarllen mwy am Ymgyrch Repeat yma:
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19