Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lansio Ymgyrch REPEAT! Hyfforddiant newydd i helpu gweithwyr gofal i ganfod troseddau yn erbyn pobl ddiamddiffyn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Lansio Ymgyrch REPEAT! Hyfforddiant newydd i helpu gweithwyr gofal i ganfod troseddau yn erbyn pobl ddiamddiffyn
ArallY cyngor

Lansio Ymgyrch REPEAT! Hyfforddiant newydd i helpu gweithwyr gofal i ganfod troseddau yn erbyn pobl ddiamddiffyn

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 9, 2019 4:09 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Lansio Ymgyrch REPEAT! Hyfforddiant newydd i helpu gweithwyr gofal i ganfod troseddau yn erbyn pobl ddiamddiffyn
Reg Burrell, Marilyn Barratt, Ceri Martin, Sgt Alison Sharp
RHANNU

Yn gynharach heddiw cafodd hyfforddiant diogelu newydd ei lansio sy’n anelu at helpu gweithwyr gofal i ddiogelu pobl ddiamddiffyn rhag troseddau ar stepen y drws a chynlluniau twyll yn Wrecsam.

Mae’r sesiynau hyfforddi hyn yn dechrau cyflwyno hyfforddiant am ddim i weithwyr proffesiynol y sector iechyd a gofal, a fydd yn para dros y blynyddoedd nesaf.

Mae ymgyrch REPEAT (Reinforce Elderly Persons Education at All Times) yn rhoi pwyslais ar ddiogelu pobl hŷn ac oedolion diamddiffyn rhag cam-drin ariannol a throseddau ar stepen y drws. Mae pawb yn haeddu teimlo a bod yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain ac mae’r hyfforddiant newydd hwn yn ceisio atal y troseddau hyn mor fuan ag sy’n bosibl.

Mae ymgyrch REPEAT eisoes yn cael ei redeg yn llwyddiannus ar draws Swydd Lincoln, Swydd Northampton a Gogledd Iwerddon ac mae’n ffordd bwysig o drosglwyddo negeseuon diogelwch i’r gynulleidfa gywir.

PEIDIWCH Â GADAEL I DWYLLWYR EICH SGAMIO! COFRESTRWCH I GAEL CYNGOR A RHYBUDDION AR SGAMIAU YN EICH ARDAL CHI

Dywedodd Ceri Martin, Ymarferydd Safonau Masnach Siartredig: “Mae’n eithriadol o anodd i Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru atal y mathau hyn o droseddau ar eu pennau eu hunain.

“Fodd bynnag, mae darparu hyfforddiant ardderchog ymgyrch REPEAT i weithwyr gofal iechyd – sy’n ymweld â phobl a allai fod yn ddioddefwyr yn eu cartrefi yn ddyddiol – yn cynnig cyfle i weithwyr gofal ganfod troseddau posibl ac adrodd eu hamheuon yn uniongyrchol wrth swyddogion. Gallan nhw fod yn lygaid a chlustiau yn y gymuned ar ein rhan.”

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi darpariaeth ymgyrch REPEAT yn Wrecsam a chynhaliwyd y sesiynau hyfforddi cyntaf heddiw yn Direct Health ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.

OpRepeat training

Roedd Lyndsey Thomas Rheolwr Cangen Direct Health, ynghyd â’r y Sarsiant Alison Sharp o Heddlu Gogledd Cymru a Ceri Martin o Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn bresennol yn sesiwn y prynhawn heddiw.

Dywedodd Reg Burrell, cyfarwyddwr ymgyrch REPEAT: “Mae troseddwyr yn targedu’r rhai mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas fel mater o drefn. Maen nhw’n targedu pobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain, sy’n hŷn neu’n cael anhawster symud ac yn arbennig y rheiny sy’n fregus ac sydd o bosibl yn dioddef o ddementia.

“Mae hyfforddiant ymgyrch REPEAT yn rhoi’r wybodaeth gywir i’r rheiny sy’n rhyngweithio’n ddyddiol â phobl sydd mewn perygl am y cyngor synhwyrol y dylent ei roi, beth i chwilio amdano a beth i’w wneud os canfyddir trosedd.

“Trwy ddefnyddio pobl wych fel hyn sydd mewn swyddi o ymddiriedaeth, gallwn helpu i ddiogelu’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymuned yn erbyn y troseddau ffiaidd hyn a helpu i’w cadw’n ddiogel.”

Bydd y gweithwyr gofal iechyd yn cael mynediad at safonau masnach a swyddogion yr heddlu, yn ogystal â gallu adrodd pryderon yn uniongyrchol i dîm ymgyrch REPEAT. Daw’r hyfforddiant gan bobl sydd â chyfoeth o wybodaeth am y ffyrdd y cyflawnir y troseddau.

Dywedodd Marilyn Barratt, ymgynghorydd ymgyrch REPEAT: “Yn ystod fy nghyfnod yn gweithio gydag Uned Cudd-wybodaeth Genedlaethol yr heddlu, gwelais ddigwyddiadau dinistriol yn cael eu hadrodd yn ddyddiol o bob rhan o’r wlad. Gallaf esbonio’r dulliau y maent yn eu defnyddio i dwyllo eu ffordd i gartrefi a bywydau pobl.

“Gallant droi o fod yn ddymunol i fod yn fygythiol a dychrynllyd tuag at y rheiny sy’n gwrando arnyn nhw. Mae ymgyrch REPEAT yn rhoi llwyfan i ni hyfforddi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol – neu unrhyw un sy’n edrych ar ôl pobl ddiamddiffyn mewn gwirionedd – ynglŷn â sut mae troseddwyr yn gweithio a sut y gallant helpu i amddiffyn y bobl y maent yn gofalu amdanyn nhw.”

Os hoffai unrhyw sefydliadau gymryd rhan yn hyfforddiant ymgyrch REPEAT, cysylltwch â info@oprepeat.co.uk neu tradstand@wrexham.gov.uk

Os ydych chi eisiau adrodd am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma! [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Manwerthwyr yn llwyddiannus mewn prawf Manwerthwyr yn llwyddiannus mewn prawf
Erthygl nesaf Mae Tŷ Pawb yn mynd yn rhyngwladol ar gyfer arddangosfa newydd... Mae Tŷ Pawb yn mynd yn rhyngwladol ar gyfer arddangosfa newydd…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle
Hydref 27, 2026
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 27, 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wo
Pobl a lleArallDatgarboneiddio Wrecsam

Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid

Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English