Heddiw (Rhagfyr 14) mae ail-lansiad ymgyrch ailgylchu Nadolig Cymru ‘Bydd Wych, Ailgylcha’, ac rydym eisiau chwarae ein rhan yn Wrecsam drwy ailgylchu cymaint â gallwn ni ar hyd cyfnod y Nadolig.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell: “Dros y Nadolig, rydym yn creu mwy o wastraff nac arfer ac mae’n bwysig iawn nad ydym yn anghofio ailgylchu popeth y gallwn ni. Bydd gan nifer ohonom fwy o ailgylchu nac arfer ar ôl treulio mwy o amser adref, yn ogystal â’r holl becynnu o’r anrhegion rydym yn eu rhoi a’u derbyn, felly rhaid i ni sicrhau bod yr holl bethau hyn yn cael eu hailgylchu. Mae mwyafrif ohonom yn ailgylchu fel rhan o’n harferion dyddiol, felly daliwch ati i wneud y gwaith da trwy gydol cyfnod y Nadolig.”
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Hyd at 6 Ionawr, byddwn yn rhannu ffeithiau ac argymhellion ailgylchu ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, felly cadwch lygaid am y rhain.
Ond i ddechrau, dyma wybodaeth i’ch helpu chi i fod yn Wych y Nadolig hwn!
Dilynwch yr awgrymiadau gwych hyn i fod yn Ailgylchwr Gwych y Nadolig hwn:
• Bwytewch, ailgylchwch, byddwch lawen. Mae pob Cyngor yng Nghymru’n darparu gwasanaeth casglu ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol. Defnyddiwch ef, da chi. Gellir ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau ac unrhyw fwyd dros ben o’r cinio Nadolig (y pethau na ellir eu bwyta’n ddiogel yn nes ymlaen)!. A daliwch ati i ailgylchu gwastraff arall dros yr Ŵyl hefyd, fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, crafion a chreiddiau ffrwythau, a hen fara.
• Concro’r cardbord dros y Dolig. Gellir ailgylchu’r holl gardbord a ddaw gyda’r danfoniadau nwyddau ar-lein. Cofiwch dynnu’r holl dâp gludiog yn gyntaf, a fflatio unrhyw focsys. Ac ar ôl i’r Nadolig ddod i ben, cofiwch ailgylchu’r cardiau i gyd, ond ichi dynnu unrhyw rubanau’n gyntaf, ac unrhyw ddarnau sy’n cynnwys llwch llachar.
• Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o’r plastig sydd i’w gael o gwmpas y cartref; poteli diodydd, nwyddau glanhau a photeli nwyddau ymolchi, fel poteli siampŵ a gel cawod. Cofiwch wagio, gwasgu a rhoi’r caead yn ôl arnynt cyn eu hailgylchu. Cofiwch hefyd dynnu unrhyw bwmp neu chwistrell o’r botel yn gyntaf gan nad oes modd ailgylchu’r rhain. Gallwch hefyd ailgylchu’r tybiau plastig mawr o siocled a losin sy’n llenwi’r tŷ dros y Dolig!
• Peidiwch anghofio’r ffoil y Nadolig hwn. Cofiwch ailgylchu’r casys ffoil o’r mins peis ac unrhyw ffoil glân neu heb ei staenio a ddefnyddiwyd wrth goginio dros y Dolig. Dylid gwagio a rinsio tybiau a chynwysyddion ffoil cyn eu rhoi allan i’w hailgylchu.
• Gellir ailgylchu caniau diodydd a thuniau bwydydd metel, yn ogystal ag erosolau gwag fel diaroglydd, gel eillio a chwistrell gwallt.
Gallwch ddysgu mwy am yr Ymgyrch Gwych a ffeithiau ac awgrymiadau ailgylchu ‘12 dydd Nadolig’ gan Cymru yn Ailgylchu ar y wefan www.byddwychailgylcha.org.uk, cadwch lygad am yr hysbysebion ar y teledu, gwrandewch ar yr hysbyseb ar y radio, ac ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL