Wrth i ni agosáu at ddydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber mae ein Swyddogion Safonau Masnach yn cynghori unrhyw un sy’n prynu ar-lein i fod yn ymwybodol o unrhyw beryglon a allai droi yn siomedigaeth neu hyd yn oed yn anniogel.
Llynedd roedd gwerthiant manwerthu ar-lein yn y DU yn £130.6 biliwn, y gwerthiant ar-lein mwyaf erioed! Disgwylir i’r ffigwr barhau i fod yn uchel eleni ond nid yw pob gwerthwr ar-lein yn onest, ac mae llawer yn barod i gymryd eich arian am nwyddau ffug neu eilradd.
Mae llawer o gwmnïau hefyd sy’n cynyddu prisiau cyn Dydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber er mwyn hawlio eu bod nhw wedi gostwng y pris yn sylweddol. Gallwch wirio tracwyr prisiau drwy ddefnyddio gwefan Camel Camel Camel neu safle tebyg i wneud yn siŵr eich bod yn cael bargen go iawn.
Mae llawer o bethau eraill y gallwch gadw golwg amdanyn nhw yn arbennig cynigion twyllodrus y bydd cwmnïau diegwyddor yn eu defnyddio.
Dyma rai awgrymiadau syml i’ch cadw chi’n ddiogel:
- Peidiwch â chael eich denu gan gynigion hysbysebu neu ostyngiadau a rennir ar gyfryngau cymdeithasol – gall y rhain edrych yn ddeniadol, ond yn aml dolen ydyn nhw i wefannau copi, lle gall twyllwyr ddwyn eich manylion.
- Edrychwch am adolygiadau o’r cynnyrch neu’r adwerthwr/gwerthwr – a gofynnwch i chi eich hun a ydyn nhw’n edrych yn ddilys.
- A oes llawer o gamgymeriadau sillafu neu ramadegol ar y wefan? Os felly, gallai hynny fod yn awgrym nad yw’r busnes yn cael ei redeg yn broffesiynol.
- Gwnewch yn siŵr bod gan y wefan gyfeiriad wedi’i amgryptio – bydd hyn yn dangos os bydd symbol clo clap yn y bar tasgau (lle rydych yn teipio’r cyfeiriad), neu os oes “s” ar ddiwedd rhan “http” y cyfeiriad. Os felly, mae’n golygu bod y wefan yn defnyddio system wedi’i amgryptio, sy’n cadw eich manylion yn ddiogel.
- Oes gan y cwmni rif llinell dir y gallwch ei ffonio os byddwch yn cael unrhyw broblemau?
- Darllenwch y print bach – sylwch a oes unrhyw beth yn ymddangos yn rhyfedd, yn ailadroddus neu’n anghywir yn Saesneg.
- Peidiwch â chael eich twyllo gan fargen amhosibl – os bydd rhywbeth yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, dyma’r achos fel arfer.
- Cofiwch fod twyllwyr yn ecsbloetio cynnyrch sydd â galw uchel – os bydd siopau’n rhedeg allan o bethau fel teganau a gemau, bydd twyllwyr yn gwerthu fersiynau tebyg o ansawdd gwael.
- Peidiwch â phrynu mewn panig – gwnewch ychydig o wiriadau synnwyr cyffredin fel y rhai uchod a gwnewch yn siŵr nad ydych yn rhoi eich manylion i droseddwr.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu: “Byddem yn annog pawb i gymryd mantais o’r fargen onest a gwerth ei chael ar-lein ond gofynnwn i chi fod yn ofalus a dilyn y gwiriadau syml uchod i wneud yn siŵr eich bod yn cael gwerth am eich arian a ddim yn cael eich siomi.”
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN