Yn ystod y cyfnod anodd hwn mae troseddwyr diegwyddor yn ecsbloetio ein hofnau ynghylch COVID-19 ac yn poenydio’r cyhoedd, yn arbennig pobl ddiamddiffyn a hŷn sydd wedi eu hynysu o’u teulu a’u ffrindiau.
Mae ein swyddogion Safonau Masnach yn cefnogi Safonau Masnach Cenedlaethol wrth iddynt rybuddio pobl i fod yn wyliadwrus yn dilyn cynnydd mewn sgamiau yn gysylltiedig â coronafeirws sy’n ceisio manteisio o bryder ac ansicrwydd y cyhoedd ynghylch COVID-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae ein Prif Weithredwr, Ian Bancroft ac Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mark Pritchard, wedi cytuno y dylem oll fod yn hynod wyliadwrus o sgamiau: “Mae gennym enghreifftiau yn lleol o ba mor weithredol yw’r twyllwyr a diolchwn i’n Swyddogion Safonau Masnach am eu gwyliadwriaeth barhaus wrth eu holrhain a hefyd i chi am hysbysu ffrindiau a pherthnasau ynghylch y peryglon mae’r twyllwyr yn eu cyflwyno i ni oll.
“Parhewch i gymryd gofal ychwanegol os ydych yn cael unrhyw e-bost, galwadau ffon annisgwyl neu hyd yn oed rywun yn curo ar eich drws yn cynnig cymorth. Bydd galwyr swyddogol yn gallu dangos dull adnabod ac os oes gennych unrhyw amheuaeth cymerwch gyngor ffrindiau a theulu cyn rhoi eich manylion banc, arian neu unrhyw wybodaeth bersonol.”
Mae cyngor ardderchog isod sy’n anelu i’ch amddiffyn chi ac i’ch hatal chi, eich teulu a’ch ffrindiau rhag dod yn ddioddefwyr sgamiau. Darllenwch yr isod a’i rannu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.
Byddwch yn wyliadwrus o bobl yn cynnig neu’n gwerthu:
- Byddwch yn wyliadwrus o bobl yn cynnig neu’n gwerthu:
- Brechlyn neu dulliau gwella gwyrthiol – nid oes unrhyw frechlyn neu wellhad gwyrthiol ar hyn o bryd
- Nwyddau drud neu ffug i’ch hamddiffyn rhag Coronafeirws megis cynnyrch gwrthfacterol
- Gwasanaethau siopa neu gasglu meddyginiaeth – dylech ond ddefnyddio pobl rydych yn eu hymddiried
- Gwasanaethau glanhau’r cartref
Amddiffyn eich hun ac eraill rhag sgamiau:
- Peidiwch a chael eich rhuthro i wneud penderfyniad, os yw’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir yna mae’n debygol ei fod
- Peidiwch a chymryd fod pawb yn ddiffuant Mae’n iawn gwrthod neu anwybyddu ceisiadau o’r fath. Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio eich rhuthro neu achosi i chi gael panig
- Os yw rhywun yn honni i gynrychioli elusen, gofynnwch iddynt am weld eu cerdyn adnabod. Byddwch yn amheus o geisiadau am arian o flaen llaw. Os yw rhywun yn ceisio rhoi pwysau arnoch i dderbyn gwasanaeth maent yn annhebygol o fod yn ddilys. Gofynnwch i deulu a ffrindiau am gyngor cyn derbyn cynigion o gymorth os ydych yn ansicr
- Byddwch yn ffrind da a rhannwch hwn gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.
Am gyngor ar sgamiau ffoniwch Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth:
Cymraeg: 0808 223 1144
Saesneg: 0808 223 1133
I ddweud ynglŷn â sgâm ffoniwch Action Fraud:
Cymraeg: 0808 223 1144
Saesneg: 0300 123 2040.
Cysylltwch â’ch banc os ydych yn meddwl eich bod wedi eich twyllo.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19