Mae Rhybudd Gwres Llethol wedi’i gyflwyno ar gyfer Wrecsam, a allai olygu risgiau iechyd difrifol i rai trigolion. Y rhai sydd mewn mwyaf o berygl yw pobl hŷn, plant ifanc iawn a phobl sydd â chyflyrau meddygol.
Cymerwch ofal os ydych chi’n debygol o gael eich effeithio gan y gwres a chadwch olwg ar y rhai sydd o’ch amgylch.
Mae ffyrdd eraill o gadw’n ddiogel yn y gwres hefyd, i sicrhau eich bod yn saff ac yn gyfforddus.
- gofalwch am eraill, yn enwedig pobl hŷn, plant ifanc a babanod a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd
- caewch y cyrtens mewn ystafelloedd sy’n wynebu’r haul i gadw llefydd dan do’n oerach a chofiwch y gallai fod yn oerach y tu allan na’r tu mewn
- yfwch ddigon o ddŵr. Gall diodydd llawn siwgr neu gaffein neu ddiodydd alcoholig godi mwy o syched
- agorwch ffenestri pan mae’n teimlo’n oerach y tu allan a phan mae’n ddiogel gwneud hynny
- peidiwch byth â gadael rhywun mewn cerbyd caeedig wedi’i barcio, yn enwedig babanod, plant ifanc neu anifeiliaid
- ceisiwch gadw o lygad yr haul rhwng 11am a 3pm
- os ydych chi’n mynd i’r dŵr i oeri, cymerwch ofal a dilynwch y cyngor diogelwch lleol
- os oes rhaid i chi fynd allan yn y gwres, cerddwch yn y cysgod, rhowch eli haul a gwisgwch het
- meddyliwch am ba bryd rydych chi’n gwneud ymarfer corff. Ystyriwch wneud ymarfer corff ar adegau oerach o’r dydd
- gwisgwch ddillad cotwm ysgafn, llac
- edrychwch ar rybuddion a thywydd y Swyddfa Dywydd
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/iechyd-cyhoeddus-amgylcheddol/tywydd-poeth/