Mae gwerthwyr ffug bob amser yn gymeriadau amheus – ond mae trigolion yn cael eu rhybuddio am grŵp o werthwyr hyd yn oed yn fwy amheus na’r rhan fwyaf sy’n yr ardal ar hyn o bryd.
Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus o werthwyr ffug sy’n ceisio perswadio deiliaid tai i brynu pysgod ffres.
Mae adroddiadau wedi nodi fod gwerthwyr yn mynd o ddrws i ddrws yn ceisio gwerthu pysgod i breswylwyr, gan gynnwys yr henoed a phobl agored i niwed.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Ond fel arfer, mae’r gwerthwyr hyn yn tueddu i werthu pysgod o ansawdd gwael neu is na’r safon, ac maent yn rhoi pwysau ar bobl i brynu llawer mwy na fyddent ei angen.
“Peidiwch â chael eich temtio gan werthwyr ar garreg y drws”
Dywedodd Rebecca Pomeroy, Arweinydd Bwyd a Ffermio, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Wrecsam: “Rydym yn bryderus am y mater hwn, yn arbennig os nad yw’r gwerthwyr wedi cofrestru fel gweithredwyr busnes bwyd – sy’n ofynnol o dan y gyfraith – ac os nad ydynt yn cadw at yr holl reoliadau iechyd a hylendid priodol.
“Wrth brynu pysgod gan werthwyr sy’n mynd o ddrws i ddrws, ni fydd y prynwr yn gallu gwirio sut mae’r pysgod wedi’u storio a p’un a ydynt yn ddiogel i’w bwyta. Mae gwerthwyr ffug fel hyn yn tueddu i beidio â defnyddio faniau oergell ac mae’n debygol y bydd problemau â’r labeli, safon y pysgod a’r disgrifiadau. Mae’n bosibl y byddant hefyd yn rhoi pwysau ar drigolion sy’n agored i niwed i brynu mwy nag sydd ei angen arnynt.
“Fel unrhyw un sy’n galw ar garreg y drws, rydym yn annog pobl i beidio â chael eu temtio i brynu a gofyn iddynt adael. Y lle gorau i brynu pysgod yw gan werthwyr pysgod mewn siop neu stondin sefydledig neu hyd yn oed gan fasnachwr sydd â rownd reolaidd wedi’i threfnu o flaen llaw”
Gall unrhyw un sydd angen cyngor am werthwyr ar garreg y drws, neu sy’n dymuno rhoi gwybod am ddigwyddiad gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 03454 04 05 05 (llinell Gymraeg) neu 03454 04 05 06 (llinell Saesneg) sy’n gallu rhoi cyngor annibynnol a diduedd am ddim am unrhyw faterion defnyddwyr.
Neu, gallant hefyd ffonio’r heddlu ar 101.
Dylai unrhyw un sy’n cael eu dychryn neu sy’n teimlo dan fygythiad unrhyw werthwyr ar garreg y drws gau’r drws a ffonio rhif argyfwng yr heddlu sef 999.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI