Mae Senedd yr Ifanc Wrecsam wedi cynhyrchu ffilm fer bwerus yn cynnwys ei haelodau yn siarad am y ffyrdd gwahanol y gall pobl ofalu am yr amgylchedd yn ystod y pandemig.
Mae’r bobl ifanc yn y ffilm wedi recordio’r cynnwys yn llwyr yn eu cartref, gardd neu gymunedau lleol wrth gerdded yn ddyddiol. Teitl y fideo dau funud yw ‘Cadwch yn Bwyllog, Cadwch yn Agos, Cadwch yn Lân’ ac mae’n cynnwys nifer o negeseuon pwysig, y gallwn i gyd ddysgu ohonynt.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Gwarchod Byd Natur
Mae Senedd yr Ifanc yn cynrychioli pobl ifanc yn Wrecsam, gan wneud yn siŵr bod eu barn yn cael ei glywed, a Lleihau Newid Hinsawdd yw blaenoriaeth uchaf y grŵp o bleidlais yn 2019.
Cynhaliwyd pleidlais arall y llynedd a phenderfynwyd mai Amddiffyn Natur oedd y maes y dylid canolbwyntio arno i wneud gwahaniaeth yn Wrecsam.
“Gwych”
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Mae Senedd yr Ifanc wedi cynhyrchu ffilm fer wych yn cynnwys cyngor da iawn. Os gallant ysbrydoli eraill – ac nid dim ond pobl ifanc eraill, cenedlaethau hŷn hefyd – byddai’n wych i Wrecsam. Rydym angen cymaint o breswylwyr a phosib i fod yn angerddol dros ailgylchu, ac mae cael pobl ifanc mor hyddysg yn arwain trwy esiampl gyda neges bwerus mor ddefnyddiol.”
Plastig a’r amgylchedd
Un o brif themâu’r fideo yw’r effaith mae plastig yn ei gael ar yr amgylchedd. Yn Wrecsam, mae modd ailgylchu nifer o blastigion fel rhan o’n gwasanaeth casglu wythnosol. Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o eitemau cartref y gellir eu hailgylchu…
• Potiau iogwrt
• Tybiau menyn/margarin
• Tybiau prydau parod
• Poteli siampŵ
• Poteli sebon cawod
• Poteli hylif glanhau’r ystafell ymolchi/cegin
• Basgedi ffrwythau (ond nid y ffilm na’r papur swigod)
• Y bocsys clir mae bwyd Tsieineaidd/Indiaidd yn aml yn dod ynddyn nhw
• Poteli ysgytlaeth
• Hambyrddau cig
• Tybiau hufen iâ
• Tybiau siocled mawr (Quality Street, Celebrations ac ati)
Mae gofyn i chi wneud yn siŵr eu bod nhw’n lân, heb unrhyw weddillion bwyd neu ddiod ar ôl pan fyddwch chi’n eu hailgylchu 🙂
I gael mwy o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu
CANFOD Y FFEITHIAU