Dyma rai o’n swyddi diweddaraf a fyddai efallai o ddiddordeb i chi ????
Gweithredwyr Strydwedd
Ydych chi eisiau swydd actif, sy’n eich helpu chi i gadw’n heini? Os ydych chi’r math o unigolyn y byddai’n well gennych fod allan yn yr awyr agored nac wedi eich cyfyngu i waith swyddfa, gallai hyn fod yn addas i chi. Mae gweithredwyr Strydwedd yn darparu ystod o wasanaethau, gan gynnwys llwytho gwastraff/ailgylchu a gyrru cerbydau nwyddau trwm, cynnal a chadw priffyrdd, glanhau strydoedd a chynnal a chadw tiroedd. Edrychwch ar y swydd-ddisgrifiad yn llawn…
Dyddiad cau 22/11/2019
Athro/Athrawes Cyfnod Sylfaen
Mae Ysgol Gynradd Rhosddu angen Athro/Athrawes rhan amser ar gyfer dosbarth Blwyddyn 1. Mae hon yn swydd dros dro a fydd yn gweddu rhywun a fydd yn gweithredu arwyddair ein hysgol ‘Gofalu, Ysbrydoli, Cyflawni’. Allwch chi ragori yma?
Dyddiad cau 22/11/2019
Gweithiwr cymdeithasol x3
Wrth weithio o fewn ein Tîm Plant Dan Ofal a Gadael Gofal, bydd y person iawn yn dod ag egni a brwdfrydedd am gefnogi teuluoedd. Byddwn yn rhoi cefnogaeth ardderchog i chi, yn ogystal â mynediad i gyfleoedd hyfforddiant a datblygu. Ydych chi eisiau gwybod mwy?
Dyddiad cau 22/11/2019
Cymhorthydd Dysgu – Lefel 1
Rydym yn chwilio am Gymhorthydd Addysgu hyblyg, brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio un diwrnod yr wythnos yn y dosbarth Meithrin yn Ysgol Gynradd Alexandra. Ai hon yw’r swydd i chi?
Dyddiad cau 25/11/2019
Wel, a oedd gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r swyddi hyn? Sicrhewch eich bod yn cadw llygad o dro i dro…mae ein tudalen swyddi yn cael ei diweddaru’n rheolaidd ????
Yn aml, mae swyddi gwag mewn addysg, tai, glanhau, gwasanaethau i gwsmeriaid, TG a gofal cymdeithasol, i enwi ond y rhai!
Gall gweithio i’r cyngor fod yn ddewis gyrfaol da – mae fel arfer yn cynnwys pensiwn, lwfans gwyliau da, a sefydlogrwydd cymharol.
Eisiau gweld mwy?
GWELD Y SWYDDI DIWEDDARAF