Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Caffael Tir ar gyfer Porth Wrecsam yn dechrau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Caffael Tir ar gyfer Porth Wrecsam yn dechrau
Y cyngor

Caffael Tir ar gyfer Porth Wrecsam yn dechrau

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 19, 2020 3:44 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
wrexham gateway
RHANNU

Mae Partneriaeth Porth Wrecsam rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Prifysgol Wrecsam Glyndŵr, Cymdeithas Clwb Pêl-droed Wrecsam a Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer adfywio ardal Ffordd yr Wyddgrug yn y dref.

Dau faes amlwg o’r cynigion yw integreiddio y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gyda chysylltiadau gwell rhwng y gwasanaethau bws a rheilffordd a chreu stadiwm chwaraeon a digwyddiadau pwysig yn rhanbarthol ar dir y Cae Ras.

Meddai Ken Skates, Gweinidog Gogledd Cymru: “Dwi’n falch iawn ein bod wedi cymryd camau paratoadol hollbwysig gyda datblygiad Porth yr Wyddgrug drwy brynu dau lain o dir sy’n hanfodol i gyflawni uchelgeisiau y bartneriaeth.

“Mae’n dangos ein hymrwymiad i sbarduno’r broses o ailddatblygu’r rhan hwn o Ffordd yr Wyddgrug. Rydyn ni yn dangos ein penderfyniad i gynnal y momentwm, hyd yn oed yn ystod yr argyfwng Coronafeirws, drwy brynu y ddau safle hollbwysig yma.

“Rydyn ni hefyd yn gwneud datganiad cadarn o fwriad – bod Llywodraeth Cymru yn gadarn y tu ôl i uchelgeisiau’r Bartneriaeth hon ac yn benderfynol o sicrhau newid gwirioneddol ac ysbrydoledig ar y safle hwn.”

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Er mai dechrau ydym, mae prynu y tir hwn wedi bod yn gam hynod bwysig.

“Mae’n dangos bod y bartneriaeth o ddifrif ynghylch y prosiect, ac am drawsnewid dyfodol canol tref Wrecsam yn rhywbeth gwirioneddol arbennig – o fudd i’r gymuned gyfan, gan wneud yr orsaf reilffordd yn haws ei chyrraedd a sicrhau mai Stadiwm y Cae Ras yw’r canolbwynt ar gyfer digwyddiadau y gall Gogledd Cymru gyfan eu mwynhau.

“Dwi am ddiolch i’n partneriaid – gan gynnwys Ken Skates a Llywodraeth Cymru, yr Athro Maria Hinfelaar a Phrifysgol Glyndŵr, a Spencer Harris a’r bwrdd yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam – am weithio’n ddi-flino ochr yn ochr â ni i gyrraedd y cam ymalen pwysig hwn.”

Mae Wrecsam a gweddill Cymru yn wynebu heriau enfawr ar hyn o bryd oherwydd Covid-19, felly mae’n bwysicach nag erioed i barhau i symud ymlaen gyda prosiectau ysbrydoledig fel hyn.

Gan groesawu datganiad y Gweinidog, dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae’n wych gweld y weledigaeth uchelgeisiol hon ar gyfer y Porth newydd i Wrecsam yn dod yn wir, gyda camau ymarferol yn cael eu cymryd a’r Llywodraeth yn ymrwymo gyda’u buddsoddiad. Yn y brifysgol, bydd y staff a myfyrwyr yn croesawu’r cyfle hwn ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â phartneriaid i gyflawni’r cynlluniau.”

Ar ran Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Wrecsam, dywedodd Spencer Harris: “Mae hwn yn gam hollbwysig ar y daith i ail-ddatblygu eisteddle’r KOP. Mae prynu y tir yn union y tu ôl i’r KOP yn dangos ymrwymiad parhaus ac uchelgais Llywodraeth Cymru sy’n cyd-fynd ag uchelgais y partneriaid eraill. Er bod y pethau hyn yn cymryd amser, bydd y cyhoeddiad hwn yn dangos i bobl Gogledd Cymru y bydd safle chwaraeon o safon uchel ar gyfer y rhanbarth ar garreg eu drws unwaith eto fel rhan o’r adfywio ehangach yn yr ardal.”

Y lleiniau tir sydd wedi’u prynu yw hen safle arddangos y modurdy ar gyffordd Crispin Lane a Ffordd yr Wyddgrug – gan gynnwys y tir yn union y tu ôl i Eisteddle Kop ar y Cae Ras. Mae disgwyl i’r tir hwn gynnwys yn rhannol eisteddle newydd ar y cae pêl-droed. Yr ail ddarn o dir yw hen adeilad Countrywide Stores, dros ffordd i’r fynedfa i Orsaf Gyffredinol Wrecsam. Y bwriad yw ei ddatblygu yn bennaf i wella’r cysylltiad rhwng y drafnidiaeth fysiau a rheilffordd, a datblygiadau eraill.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae’n Bythefnos Ymwybyddiaeth Sgamiau, felly pa mor #YmwybodolOSgamiau ydych chi? Mae’n Bythefnos Ymwybyddiaeth Sgamiau, felly pa mor #YmwybodolOSgamiau ydych chi?
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio cyhoeddus 19.6.20

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau
Medi 23, 2026
sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English