Mae Cyngor Wrecsam yn falch iawn o gyhoeddi ei rôl yng nghais hanesyddol y DU i gynnal Cwpan y Byd Merched FIFA yn 2035.
Mae’r cais uchelgeisiol hwn, wedi’i adeiladu ar y weledigaeth bwerus “Pawb Ynghyd”, yn cynrychioli ymrwymiad llawn i gyflwyno’r twrnamaint mwyaf cynhwysol, ysbrydoledig a chysylltiedig yn fyd-eang yn hanes pêl-droed merched.
Mae cais y DU yn cynnig 16 o ddinasoedd croeso ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda Wrecsam yn falch o fod yn rhan allweddol o’r dathliad cenedlaethol hwn. Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd y twrnamaint yn uno cymunedau, yn arddangos cyfoeth diwylliannol, ac yn croesawu’r byd i’n cornel bach ni.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i Wrecsam a Chymru ddisgleirio ar y llwyfan byd-eang. Mae pêl-droed yn rhan o’n diwylliant, o glybiau llawr gwlad i stori anhygoel Clwb Pêl-droed Wrecsam, a byddai cynnal gemau yma yn dathlu’r angerdd hwnnw tra’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr a chefnogwyr. Rydym am ddangos i’r byd bod Wrecsam yn barod i groesawu pawb, dathlu amrywiaeth, a chreu etifeddiaeth barhaol i chwaraeon merched ledled Cymru.”
Mae cais y DU yn addo:
- Cynhwysiant ac amrywiaeth: twrnamaint sy’n ymgysylltu, yn ysbrydoli ac yn uno pob cornel o’r byd.
- Etifeddiaeth i genedlaethau: tyfu gêm y merched, grymuso cymunedau, a phrofi bod pêl-droed i bawb.
- Seilwaith o’r radd flaenaf: 22 stadiwm arfaethedig, gan gynnwys lleoliadau sy’n rhan o EWRO 2028 UEFA, gyda chefnogaeth cysylltiadau trafnidiaeth cryf a chyfleusterau gwych i gefnogwyr.
- Dathliad diwylliannol: safleoedd Gwyliau Cefnogwyr FIFA ym mhob dinas groeso, yn cynnig mannau hygyrch, bywiog i gefnogwyr ddod at ei gilydd.
I Wrecsam, mae hyn yn golygu mwy na phêl-droed. Mae’n ymwneud ag arddangos ein hunaniaeth Gymreig falch, ein sector twristiaeth a lletygarwch ffyniannus, a’n hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant. Byddai cynnal rhan o Gwpan y Byd Merched FIFA yn dod â manteision trawsnewidiol o dwf economaidd i ysbrydoli pobl ifanc ledled Gogledd Cymru.


