Rydym ni’n cefnogi Heddlu Gogledd Cymru gyda’u neges, Parchu, diogelu a mwynhewch, i annog pobl i ddathlu Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn ddiogel eleni.
Mae’r heddlu wedi lansio Ymgyrch BANG sef ymgyrch diogelwch flynyddol ac maent yn gofyn i bobl feddwl am ffyrdd gwahanol o ddathlu Calan Gaeaf eleni.
Gyda chyfyngiadau mewn grym oherwydd Covid-19 a gyda rhai ardaloedd yng ngogledd Cymru dan gyfyngiadau pellach, mae swyddogion yn annog pobl i barchu eu cymdogion, gwarchod y gwasanaethau brys drwy leihau’r galw a mwynhau dathliadau adref.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Helen Corcoran, Pennaeth Diogelwch Cymunedol ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ymgyrch BANG yn un flynyddol sydd wedi’i hanelu at warchod pobl dros gyfnod Calan Gaeaf a Noson Guto Ffowc.
“Eleni, er ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chadw pobl yn ddiogel, mae ein neges ychydig yn wahanol o ystyried yr amgylchiadau anghyffredin rydym ni ynddynt oherwydd y coronafeirws. Rydym yn gofyn i bawb feddwl sut y gallent ddiogelu Cymru dros Galan Gaeaf drwy beidio â lledaenu Covid-19.
“Rydym yn gofyn i bobl ystyried dathlu yn eu cartrefi yn hytrach na mynd allan i grwydro. Gofynnwn iddynt barchu bod yna bobl sy’n cael Calan Gaeaf yn ofidus yn ystod amserau arferol, a bod ansicrwydd y sefyllfa bresennol wedi dwysáu’r teimladau hyn o orbryder.
“Plîs cofiwch beidio â chyfarfod â neb nad ydych yn byw gyda nhw neu sy’n rhan o’ch cartref estynedig. Mae hyn yn cynnwys eich tŷ a llefydd megis tafarndai a thai bwyta.
“Rydym hefyd yn gofyn i chi wneud eich gorau i’ch cadw eich hun a’ch teulu’n ddiogel er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys yn ystod cyfnod sydd eisoes yn brysur iawn.”
“Mae cerfio pwmpenni, gwneud crefftau a chreu taith arswyd o amgylch eich tŷ neu eich gardd i gyd yn ffyrdd y gallwch chi ddathlu Calan Gaeaf gartref gyda phlant ifanc. Gall cymunedau hefyd greu rhes hir o bwmpenni, ac am bob pwmpen caiff ei gweld yn y gymuned, gall y rhiant roi fferins ym mag y plentyn heb orfod cnocio ar ddrysau pobl a chwilota am bethau da mewn bwced.
“Bydd plant hŷn a rhai yn eu harddegau efallai eisiau cyfarfod â ffrindiau, ond rydyn ni’n annog rhieni i gadw golwg ar eu cynlluniau, a’u hatgoffa i ystyried goblygiadau eu gweithredoedd, ac ystyried cyfyngiadau symud lleol.
Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Corcoran: “Yn ffodus, nid yw mwyafrif y cymunedau rydym yn eu plismona’n gweld cynnydd mawr mewn troseddu yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn. Ond mae bob amser posibilrwydd y gall un neu ddau o bobl ddifetha’r cyfan i bawb arall.”
Mae ein gwefan hefo gweithgareddau y gellir eu lawrlwytho – megis tudalennau lliwio a chwilair. Gall pobl yrru lluniau atom ni gan ddefnyddio’r hashnod #CalanGaeafHGC ac mae’n bosib bydd cyfle i ennill gwobr.”
“Drwy gydweithio gallwn gael Calan Gaeaf diogel a llawn hwyl.”
I gael syniadau am grefftau Calan Gaeaf a ffyrdd o ddathlu yn eich cartref, cliciwch ar y dogfennau PDF isod.
Mae cyngor a gwybodaeth am ddiogelwch tân gwyllt ar gael drwy wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae gwybodaeth am y cyfyngiadau lleol yng ngogledd Cymru ar gael drwy gwefan Llywodraeth Cymru.
Lliwio Calan Gaeaf – taflen 1 / taflen 2 / taflen 3
Beth yw’r gwahaniaeth Calan Gaeaf
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG