Ydych chi’n cael trafferth wrth lenwi ffurflenni ar-lein? Ydych chi’n gweld llenwi ffurflenni cais am swyddi ar-lein yn anodd? Hoffech chi fod yn fwy medrus ar y we?
Os felly, mae sesiynau galw heibio newydd ym Mhlas Pentwyn bob dydd Iau rhwng 10am a hanner dydd.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Mae’r sesiynau ar gyfer trigolion Coedpoeth a’r ardal gyfagos sydd angen help a chefnogaeth. Gallant eich helpu os ydych chi’n chwilio am waith gan ddefnyddio Paru Swyddi Ar-lein a safleoedd swyddi eraill a rhoi cymorth gyda ffurflenni a ffurflenni cais ar-lein. Gallant hefyd helpu gyda phethau cyffredinol eraill, fel creu cyfrif e-bost a’i ddefnyddio, apiau’r cyfryngau cymdeithasol, prynu a gwerthu ar-lein neu ddod i’r afael â’ch llechen neu eich ffôn clyfar.
Swnio fel y byddai’n addas i chi?
Y cyfan sydd raid i chi ei wneud ydi galw heibio neu, i gael gwybod mwy, cysylltwch â Phlas Pentwyn ar 01978 722980 neu anfonwch neges at conf2learn@wrexham.gov.uk.
Dywedodd y Cyng. David Kelly, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwasanaethau Corfforaethol: “Rydyn ni’n byw mewn oes ddigidol ac mae mwy a mwy ohonom ni’n gorfod dod yn gyfarwydd â gwneud pethau ar-lein. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn yr ardal yn manteisio ar y sesiwn ac yn dod yn fwy medrus ar y we o ganlyniad.”
Mae tîm Busnes a Buddsoddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi derbyn cyllid ar gyfer y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.