Bydd preswylwyr sy’n defnyddio trelar i ailgylchu eu gwastraff nawr yn gallu mynd i Ganolfan Ailgylchu Brymbo Lodge.
Ers dechrau’r wythnos hon (dydd Llun, 19 Ebrill), rydym wedi bod yn caniatáu i drelars ddod i’r ganolfan i weld sut mae’r safle’n ymdopi gyda’r newid. Byddwn yn monitro lefelau ymwelwyr ac yn edrych am unrhyw broblemau a godir o ganlyniad i draffig cynyddol.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Efallai eich bod yn ymwybodol, cyn yr wythnos hon, ni chaniatawyd trelars yn Brymbo Lodge ac roedd unrhyw un oedd eisiau defnyddio trelar i ailgylchu eu gwastraff yn gorfod defnyddio canolfannau ailgylchu Bryn Lane neu Blas Madog.
Ar hyn o bryd, caniateir i drelars ddod i’r DAIR ganolfan ailgylchu yn Wrecsam.
Gwiriwch drefniadau presennol ein canolfannau ailgylchu:
• Peidiwch â mynd i’r safleoedd os oes gennych chi ne unrhyw un yn eich aelwyd symptomau o Covid-19.
• Dewch â gwastraff yr aelwyd yn unig gyda chi. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol na gwastraff busnes gyda chi.
• Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel.
• Byddwch yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros mewn ciw. Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg.
• Sicrhewch mai dim ond un person sydd yn dod allan o’r cerbyd er mwyn dadlwytho, a’u bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Nodwch os gwelwch yn dda, dylai plant aros yn y car drwy’r amser, ni chaniateir anifeiliaid anwes ar y safle.
• Peidiwch â dod ag eitemau sydd yn rhy fawr neu’n rhy drwm i chi eu cario eich hun. Ni fydd ein gweithwyr yn cael eich helpu i ddadlwytho eich car, na chael gwared ar eich gwastraff.
• Sortiwch eich gwastraff cyn i chi gyrraedd (er mwyn i chi fod yn gyflym).
• Byddwch yn gwrtais. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol tuag at ein staff. Bydd swyddogion yn gwisgo camerâu corff, felly byddant yn rhoi gwybod am unrhyw achos i’r heddlu.
• Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb ar y safle, a dewch â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os allwch chi (glanhewch eich dwylo gyda’r hylif cyn i chi yrru nôl am adref).
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF