Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Caniatáu trelars yng Nghanolfan Ailgylchu Brymbo Lodge
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Caniatáu trelars yng Nghanolfan Ailgylchu Brymbo Lodge
Y cyngor

Caniatáu trelars yng Nghanolfan Ailgylchu Brymbo Lodge

Diweddarwyd diwethaf: April 22, 2021 9:59 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Recycling
RHANNU

Bydd preswylwyr sy’n defnyddio trelar i ailgylchu eu gwastraff nawr yn gallu mynd i Ganolfan Ailgylchu Brymbo Lodge.

Ers dechrau’r wythnos hon (dydd Llun, 19 Ebrill), rydym wedi bod yn caniatáu i drelars ddod i’r ganolfan i weld sut mae’r safle’n ymdopi gyda’r newid. Byddwn yn monitro lefelau ymwelwyr ac yn edrych am unrhyw broblemau a godir o ganlyniad i draffig cynyddol.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Efallai eich bod yn ymwybodol, cyn yr wythnos hon, ni chaniatawyd trelars yn Brymbo Lodge ac roedd unrhyw un oedd eisiau defnyddio trelar i ailgylchu eu gwastraff yn gorfod defnyddio canolfannau ailgylchu Bryn Lane neu Blas Madog.

Ar hyn o bryd, caniateir i drelars ddod i’r DAIR ganolfan ailgylchu yn Wrecsam.

Does dim rhaid gwneud apwyntiad i fynd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Brymbo ar y penwythnos.

Gwiriwch drefniadau presennol ein canolfannau ailgylchu:

• Peidiwch â mynd i’r safleoedd os oes gennych chi ne unrhyw un yn eich aelwyd symptomau o Covid-19.
• Dewch â gwastraff yr aelwyd yn unig gyda chi. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol na gwastraff busnes gyda chi.
• Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel.
• Byddwch yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros mewn ciw. Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg.
• Sicrhewch mai dim ond un person sydd yn dod allan o’r cerbyd er mwyn dadlwytho, a’u bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Nodwch os gwelwch yn dda, dylai plant aros yn y car drwy’r amser, ni chaniateir anifeiliaid anwes ar y safle.
• Peidiwch â dod ag eitemau sydd yn rhy fawr neu’n rhy drwm i chi eu cario eich hun. Ni fydd ein gweithwyr yn cael eich helpu i ddadlwytho eich car, na chael gwared ar eich gwastraff.
• Sortiwch eich gwastraff cyn i chi gyrraedd (er mwyn i chi fod yn gyflym).
• Byddwch yn gwrtais. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol tuag at ein staff. Bydd swyddogion yn gwisgo camerâu corff, felly byddant yn rhoi gwybod am unrhyw achos i’r heddlu.
• Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb ar y safle, a dewch â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os allwch chi (glanhewch eich dwylo gyda’r hylif cyn i chi yrru nôl am adref).

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Outdoor Hospitality Lletygarwch awyr agored yn paratoi i groesawu cwsmeriaid yn ôl
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – tafarndai a bwytai yn ailagor ddydd Llun…mwynhewch, ond cadwch yn ddiogel

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Pobl a lle Digwyddiadau
November 6, 2026
Wrecswyl Logo
Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!
Pobl a lle Digwyddiadau
November 6, 2026
Library
Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn
Y cyngor Pobl a lle
November 5, 2026
Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026
Pobl a lle
November 5, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau
Y cyngor

Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau

November 4, 2026
Armed Forces
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd… 3 Rhagfyr 🎄

October 28, 2026
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 

October 28, 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026

October 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English