Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – tafarndai a bwytai yn ailagor ddydd Llun…mwynhewch, ond cadwch yn ddiogel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – tafarndai a bwytai yn ailagor ddydd Llun…mwynhewch, ond cadwch yn ddiogel
ArallY cyngor

Nodyn briffio Covid-19 – tafarndai a bwytai yn ailagor ddydd Llun…mwynhewch, ond cadwch yn ddiogel

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 30, 2021 9:50 am
Rhannu
Darllen 11 funud
Covid-19
RHANNU

Sut mae pethau? Mae pethau’n dal i wella ???? …ond mae’n rhaid i ni barhau i fod yn ofalus.

Cynnwys
      • Pan fyddwch yn cyfarfod yn yr awyr agored…
      • Pan fyddwch yn mynd i dafarn neu dŷ bwyta…
      • Pan rydych yn mynd i siopa…
      • Pan rydych yn mynd i’r ysgol…
  • Dyddiadau a newidiadau allweddol
      • Dydd Sadwrn, Ebrill 24
      • Dydd Llun Ebrill 26
      • Dydd Llun, Mai 3
  • Trelars yng nghanolfan ailgylchu Brymbo
  • Mynd i Gaer y penwythnos hwn?
  • Y diweddaraf ar y broses frechu
      • Ydych chi rhwng 40-49 oed?
      • Ydych chi rhwng 18-39 oed?
      • Dim gwahoddiad eto?
      • Ewch i’ch apwyntiad os gwelwch yn dda
  • Y Coronafeirws lle rydych chi’n byw
  • Pecynnau hunan brawf am ddim os na allwch weithio adref
  • Oes gennych chi symptomau neu ydych chi wedi eich nodi fel ‘cyswllt’?
  • Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

Fe fydd tafarndai, tai bwyta a chaffis yn gallu gweini yn yr awyr agored o’r dydd Llun hwn, Ebrill 26 wrth i gyfyngiadau barhau i gael eu llacio.

Mae hyn yn gam mawr ac os ydym ni i gyd yn synhwyrol a gofalus fe allwn fwynhau gallu bwyta ac yfed allan gyda’n ffrindiau a’n teulu unwaith eto, tra’n cadw’n ddiogel.

Yn gynharach yr wythnos hon fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru hefyd y bydd chwech o bobl yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored o ddydd Sadwrn Ebrill 24 ac ni fydd y nifer o aelwydydd wedi ei gyfyngu i ddau mwyach.

Rydym ar y llwybr cywir. Gadewch i ni aros ar y llwybr hwnnw.

Pan fyddwch yn cyfarfod yn yr awyr agored…

Cadwch bellter cymdeithasol. Cadwch at y ‘rheol o chwech’ (dim mwy na chwech o bobl).

Pan fyddwch yn mynd i dafarn neu dŷ bwyta…

Archebwch le ymlaen llaw. Rhowch eich manylion ar gyfer olrhain cysylltiadau. Cadwch bellter cymdeithasol. Cadwch at y ‘rheol o chwech’.

Pan rydych yn mynd i siopa…

Cadwch bellter cymdeithasol. Defnyddiwch ddiheintydd dwylo. Gwisgwch fwgwd oni bai eich bod wedi eich eithrio rhag gwneud hynny.

Pan rydych yn mynd i’r ysgol…

Osgowch rannu car. Peidiwch â loetran wrth y gatiau. Cadwch eich plentyn adref os ydynt yn teimlo’n anhwylus (trefnwch brawf os oes ganddynt symptomau).

Lletygarwch awyr agored yn paratoi i groesawu cwsmeriaid yn ôl

Dyddiadau a newidiadau allweddol

Heddiw cadarnhaodd Llywodraeth Cymru hefyd y bydd rhai cyfyngiadau yn cael eu llacio’n gynt, gyda’r llacio yn symud o Mai 17 i Mai 3.

Mae hyn yn cynnwys ailgychwyn gweithgareddau dan do dan oruchwyliaeth ar gyfer plant, gweithgareddau dan do wedi eu trefnu ar gyfer hyd at 15 o oedolion (fel dosbarthiadau ymarfer corff) ac ailagor canolfannau cymunedol.

Dyma grynodeb cyflym o’r prif newidiadau yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf.

Dydd Sadwrn, Ebrill 24

• Gall chwech o bobl (nad ydynt yn cynnwys plant o dan 11 oed) o fwy na dwy aelwyd gyfarfod yn yr awyr agored.

Dydd Llun Ebrill 26

• Fe fydd tafarndai a thai bwyta yn ailagor ar gyfer gwasanaeth yn yr awyr agored (fe fydd lletygarwch dan do yn parhau ar gau).
• Bydd gweithgareddau awyr agored wedi eu trefnu a brecwast priodas i hyd at 30 o bobl yn cael ei ganiatáu.
• Fe fydd atyniadau awyr agored, gan gynnwys pyllau nofio awyr agored, ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor.

Dydd Llun, Mai 3

• Fe fydd campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd yn gallu ailagor.

Nodwch yn Wrecsam y bydd canolfannau hamdden Byd Dŵr a’r Waun yn agor ar Mai 3 o 9am tan 4pm a bydd holl gyfleusterau eraill Hamdden Freedom yn y fwrdeistref sirol yn ailagor ar Mai 4.

Fe fydd dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp o dan do yn dechrau ar rai safleoedd ar Fai 3, a dosbarthiadau Dysgu Nofio ar Fai 4.

Cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol i gael rhagor o wybodaeth.

• Fe fydd gweithgareddau dan do dan oruchwyliaeth ar gyfer plant a gweithgareddau dan do wedi eu trefnu ar gyfer hyd at 15 o oedolion (fel dosbarthiadau ymarfer corff) yn cael eu caniatáu.
• Fe fydd canolfannau cymunedol yn gallu ailagor.
• Fe fydd aelwydydd estynedig yn cael eu caniatáu eto, gan alluogi dwy aelwyd i gyfarfod a chael cyswllt dan do.

Nodwyd hefyd y bydd bariau, tafarndai, tai bwyta a chaffis yn gallu agor dan do o Fai 17.

Fodd bynnag, mae hyn yn ddibynnol ar gadarnhad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn etholiadau mis Mai.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Trelars yng nghanolfan ailgylchu Brymbo

Ers dechrau’r wythnos hon (Ebrill 19) rydym wedi bod yn caniatáu trelars yng nghanolfan ailgylchu Brymbo. Mae hyn yn golygu y caniateir hwy ymhob un o’r tair canolfan ailgylchu yn y fwrdeistref sirol (Brymbo, Bryn Lane a Phlas Madoc).

Darllenwch fwy…

Mynd i Gaer y penwythnos hwn?

Efallai eich bod yn meddwl mynd dros y ffin i Loegr y penwythnos hwn, lle mae’r tafarndai, tai bwyta a’r caffis eisoes ar agor ar gyfer gwasanaeth awyr agored.

Mae Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn croesawu ymwelwyr, ond yn galw am bwyll a gofal. Dyma ychydig o gyngor:

• Cynlluniwch eich taith ymlaen llaw a theithiwch i Loegr dim ond os nad oes gennych symptomau Covid-19.
• Cadwch bellter cymdeithasol yn ystod eich ymweliad ac ar gludiant cyhoeddus.
• Gwisgwch orchudd wyneb pan rydych dan do ac ar gludiant cyhoeddus.
• Fe all tafarndai, tai bwyta, caffis a bariau i gyd weini cwsmeriaid, ond ar gyfer gwasanaeth awyr agored yn unig.
• Mae gan yr holl fusnesau reolaethau llym mewn grym i sicrhau eu bod yn gweithredu yn unol â chanllawiau cenedlaethol i sicrhau diogelwch staff a chwsmeriaid.
• Archebwch le ymlaen llaw, gan mai dim ond unigolion sydd wedi archebu lle ymlaen llaw y bydd nifer o leoedd yn eu derbyn.
• Byddwch yn barod i aros mewn ciwiau hir os nad ydych wedi archebu lle ymlaen llaw.
• Anogir ymwelwyr â Chaer i gael prawf coronafeirws yn Eglwys Gadeiriol Caer er diogelwch iddynt hwy eu hunain ac eraill, ac i hunan ynysu os ydynt yn profi’n bositif.

Y diweddaraf ar y broses frechu

Er mwyn sicrhau fod cyflenwadau o’r brechlyn yn cael eu defnyddio cyn gynted â phosibl yng Ngogledd Cymru, mae’r bwrdd iechyd lleol yn cynnal dwy ffrwd ar gyfer pobl rhwng 18-49 oed.

Mae un yn darparu’r brechlyn Pfizer i’r rhai sydd o dan 30 oed, a’r llall yn darparu’r brechlyn Oxford AstraZeneca i’r rhai sydd rhwng 30-49 oed.

Bwriad hyn yw i sicrhau nad yw brechlynnau’n cael eu gadael am gyfnodau hir heb eu defnyddio, ac mae’n gyson â chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Ydych chi rhwng 40-49 oed?

Mae’r bwrdd iechyd lleol yn cysylltu â phobl rhwng 40-49 oed gydag apwyntiadau ar gyfer y dos cyntaf.

Cysylltwch â’r bwrdd iechyd dim ond os ydych am ganslo neu aildrefnu eich apwyntiad os gwelwch yn dda, a hynny ar ôl i chi ei dderbyn.

Ydych chi rhwng 18-39 oed?

Os ydych chi rhwng 18-39 oed byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda – ni ddylech orfod aros yn llawer hirach.

Dim gwahoddiad eto?

Cwblhewch y ffurflen ar-lein os nad ydych wedi gallu cael apwyntiad eto a’ch bod yn un o’r canlynol:

• Dros 16 oed ac yn byw gydag unigolion gyda systemau imiwnedd hynod o wan.
• Yn 50 oed neu’n hŷn a heb dderbyn gwahoddiad.
• Rhwng 16-64 oed gyda chyflyrau iechyd presennol penodol.
• Gofalwr di-dâl nad yw’n hysbys i’r bwrdd iechyd.

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt Brechu ar 03000 840004.

Ewch i’ch apwyntiad os gwelwch yn dda

Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu ofidiau munud olaf, ewch i’ch apwyntiad brechu er hynny fel y gall staff drafod y rhain gyda chi cyn i chi wneud penderfyniad.

Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan bwrdd iechyd y GIG lleol.

Y Coronafeirws lle rydych chi’n byw

Mae Wrecsam yn ei chyfanrwydd nawr yn ddegfed yng Nghymru, gyda 11.8 o achosion i bob 100,000 o’r boblogaeth ar sail dreigl saith diwrnod (yr isaf ers mis Medi).

Mae hyn yn newyddion gwych ac yn dangos cymaint y mae pethau wedi gwella. Ond rydym i gyd yn gwybod fod yna berygl o drydedd ton, felly mae’n rhaid i ni i gyd fod yn ofalus.

Os ydych am weld beth yw’r ffigyrau lle rydych yn byw, ewch i ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru a chliciwch ar y tab ‘MSOA’.

Pecynnau hunan brawf am ddim os na allwch weithio adref

Os na allwch weithio adref fe allwch gasglu pecynnau hunan brawf ‘llif unffordd’ o’r ganolfan brofi yn y Neuadd Goffa yn Wrecsam.

Edrychwch ar wefan y bwrdd iechyd lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Methu â gweithio gartref?

Rydym yn annog pawb sy’n gorfod mynd i weithle i gymryd prawf llif unffordd wythnosol.

Gallwch gael pecyn hunan-brawf COVID-19 gan leoliadau profi lleol.

Rhagor o wybodaeth 👇https://t.co/lGWie91X3a pic.twitter.com/GBP082IUP8

— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) April 21, 2021

Oes gennych chi symptomau neu ydych chi wedi eich nodi fel ‘cyswllt’?

Os oes gennych chi symptomau o’r coronafeirws – neu os ydych wedi eich nodi fel ‘cyswllt’ gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu – sicrhewch eich bod yn hunan ynysu ac yn cael prawf.

Fe all hyn fod y peth pwysicaf y byddwch yn ei wneud fyth…

Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

  • Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y diweddaraf ar y broses frechu (Gogledd Cymru)
  • Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â’r cyfyngiadau cyfredol yng Nghymru
  • Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Recycling Caniatáu trelars yng Nghanolfan Ailgylchu Brymbo Lodge
Erthygl nesaf Sicrhewch eich bod yn barod i bleidleisio ar 6 Mai Sicrhewch eich bod yn barod i bleidleisio ar 6 Mai

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English