Rydym wedi ymrwymo i gadw Wrecsam mor ddiogel â phosib yn ystod y pandemig hwn.
Rydym yn parhau i fonitro sefyllfa covid-19 yn agos.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Fel rhan o’n monitro rydym wedi gweld fod Wrecsam wedi cael clystyrau o achosion covid-19 positif mewn gweithfannau sy’n gysylltiedig â rhannu ceir gan breswylwyr o wahanol aelwydydd.
Os ydych fel arfer yn rhannu cerbyd gyda phobl o aelwydydd eraill (heblaw eich aelwyd estynedig), dylech geisio canfod ffordd wahanol o deithio – o dan y canllawiau cyfredol ni ddylai pobl o wahanol aelwydydd rannu car.
Gyda’r tywydd yn gwella, gall fod yn fwy apelgar cerdded neu feicio i’r gwaith. Heblaw’r manteision iechyd a lles o wneud ymarfer corff, bydd hyn hefyd yn rhoi llai o gyfle i’r feirws ledaenu, gan ein helpu i drechu’r feirws marwol hwn.
Ar hyn o bryd ni argymhellir rhannu ceir i deithio i’r gwaith os na allwch weithio o gartref, gyda phobl nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd neu eich aelwyd estynedig, gan y byddai’n anodd dilyn y rheolau a chadw pellter cymdeithasol.
Os nad oes unrhyw ddewis arall yna bydd angen i chi gael awyru da (agor ffenestri’r car), gwisgo mwgwd, gall peidio ag wynebu eich gilydd helpu i leihau’r perygl o ledaeniad.
Byddwch yn ymwybodol o’r pethau rydych chi neu eraill yn eu cyffwrdd. Cadwch bethau fel yr olwyn lywio a’r handlenni drws yn lân.
Os ydych yn dod o fewn 2 fedr i’ch gilydd, dylech osgoi cyswllt corfforol, ceisiwch beidio ag wynebu eich gilydd a cheisio treulio cyn lleied â phosib o amser o fewn y pellter hwn.
Er ein bod wedi gweld nifer yr achosion o’r feirws yn gostwng yn Wrecsam a Chymru, mae’n bwysig parhau i fod yn ofalus, gan roi llai o gyfle i covid-19 ledaenu.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF