Diolch yn fawr iawn i fasnachwyr tân gwyllt trwyddedig am lwyddo i basio’r ymarfer prynu arbrofol. Yn yr ymarfer, daeth dau wirfoddolwr 16 oed allan o’r safleoedd yn waglaw ar ôl ceisio prynu tân gwyllt.
Mae gwerthu tân gwyllt i unrhyw unigolyn dan 18 oed yn drosedd – mae tân gwyllt yn gallu bod yn beryglus iawn os nad ymdrinnir â hwy yn ofalus iawn, yn ogystal â hynny, maent yn gallu cyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Ymwelodd y Swyddogion Safonau Masnach â 13 o safleoedd, a llwyddodd bob un ohonynt i herio’r gwirfoddolwyr am dystiolaeth oedran, gan wrthod eu gwerthu.
Meddai Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu: “Ymwelwyd â phob masnachwr trwyddedig yn ystod yr ymarfer ac mae’n rhaid i ni longyfarch bob un ohonynt am eu diwydrwydd dyladwy wrth werthu tân gwyllt i bobl ifanc. Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cyflawni cyfradd llwyddiant o 100% a hoffwn ddiolch i bawb a oedd ynghlwm â’r gweithrediad hwn.”
Rydym hefyd wedi cyhoeddi rhai cynghorion ar sut i gadw’n ddiogel ar Noson Tân Gwyllt, ewch i gael golwg arnynt yma (link when article published)
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD