Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Canolbwyntio ar y gymuned” – Dewch i gwrdd â’r grwpiau sydd wedi ymgartrefu yn Nhŷ Pawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > “Canolbwyntio ar y gymuned” – Dewch i gwrdd â’r grwpiau sydd wedi ymgartrefu yn Nhŷ Pawb
Busnes ac addysgPobl a lle

“Canolbwyntio ar y gymuned” – Dewch i gwrdd â’r grwpiau sydd wedi ymgartrefu yn Nhŷ Pawb

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 3, 2019 10:38 am
Rhannu
Darllen 9 funud
“Canolbwyntio ar y gymuned” – Dewch i gwrdd â’r grwpiau sydd wedi ymgartrefu yn Nhŷ Pawb
RHANNU

Rydym ni eisoes wedi edrych ar lwyddiant rhai o farchnadoedd Tŷ Pawb, felly dyma gyfle rŵan i edrych ar y digwyddiadau a’r grwpiau cymunedol.

Cynnwys
  • “Mae’r awyrgylch cyfan yn wych ar gyfer ennyn diddordeb plant yn y celfyddydau”
  • “Mae Tŷ Pawb yn gartref i bawb – rydym ni’n gôr pawb.”
  • “Roeddwn yn meddwl y byddai’n lle delfrydol – a ches i ddim fy siomi!”

Ers ailagor yr adeilad fel Tŷ Pawb ym mis Ebrill 2018 mae cannoedd o ddigwyddiadau wedi eu cynnal yma – o ffilmiau a pherfformiadau cerddoriaeth fyw i sgyrsiau a chynadleddau.

Ond mae Tŷ Pawb hefyd yn gartref i lawer o sefydliadau a grwpiau cymunedol, gan roi gofod iddyn nhw sgwrsio neu gyfarfod yn swyddogol neu, pan fo angen, i ymarfer, perfformio neu i werthu pethau.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Gan fod dathliadau diwedd blwyddyn gyntaf Tŷ Pawb yn nesáu, rydym ni wedi bod yn sgwrsio efo rhai o’r grwpiau cymunedol sydd wedi defnyddio’r adeilad yn ystod y 12 mis diwethaf – i weld sut brofiad cawson nhw a beth oedden nhw’n feddwl o’r cyfleuster newydd.

Un o’r pethau cyntaf a darodd llawer o’r grwpiau yma oedd gwychder y lleoliad fel lleoliad cymunedol.

Dyma farn rhai o’r bobl sydd wedi defnyddio’r cyfleuster:

“Mae’r awyrgylch cyfan yn wych ar gyfer ennyn diddordeb plant yn y celfyddydau”

Roedd Andy Taylor-Edwards, Cyfarwyddwr Creadigol The Learning Collective, wrth ei fodd efo Tŷ Pawb ar ôl i’r grŵp gynnal dau berfformiad o Alice in Wonderland yn y lleoliad fis Medi – a’r holl docynnau wedi eu gwerthu.

Meddai Andy: “Fis Medi daethom i Dŷ Pawb i gynnal ein perfformiad o Alice in Wonderland, ac archebu’r lleoliad yn syth bin ar gyfer ein gweithdai.

“Roedd sawl rheswm dros archebu’r lleoliad – mae’n lleoliad braf ac roedd arnaf eisiau ei gefnogi, ac mae’n wych bod gan Wrecsam leoliad o’r fath.

“Ac roedd o’n ddewis da i ni fel grŵp. Mae llawer o bobl yn sôn am Dŷ Pawb ac mae’n lleoliad proffesiynol iawn, ac mae nifer yr aelodau wedi dyblu o ganlyniad. Ac, wrth gwrs, mae yna lawer o fannau bwyta lle gall rhieni aros am eu plant.

“Canolbwyntio ar y gymuned” – Dewch i gwrdd â’r grwpiau sydd wedi ymgartrefu yn Nhŷ Pawb

“Mae’r bobl yno’n wych – mae pawb yr wyf wedi dod i gysylltiad â nhw wedi bod yn garedig tu hwnt”.

Mae’r grŵp yn cynnal gweithdai wythnosol i blant a phobl ifanc, i blant oed cynradd a phobl ifanc 11-16 oed.

Ychwanegodd Andy: “Mae gennym ni oddeutu 15 aelod iau a 22 o aelodau 11-16 oed, felly oddeutu 40 o blant gyda’i gilydd.

“Ac mae’r plant wrth eu bodd yn Nhŷ Pawb – mae o’n fwy na gofod theatr. Mae’r awyrgylch cyfan yn wych ar gyfer ennyn diddordeb y plant yn y celfyddydau.

“Mae gennym ni gyfradd presenoldeb o 95%. Mae rhywfaint o hynny o ganlyniad i’r hyn rydym ni’n ei gynnig yn y gweithdai, ond mae’r lleoliad wedi cyfrannu at y gyfradd uchel honno hefyd.

“Ac mae’r plant yn gwybod bod yna statws arbennig wrth ymarfer mewn lleoliad proffesiynol.”

“Mae Tŷ Pawb yn gartref i bawb – rydym ni’n gôr pawb.”

Mae Côr Cymunedol One World wedi bod yn rhan o Dŷ Pawb ers iddo agor.

Dechreuodd y côr ymarfer yn Nhŷ Pawb fis Ebrill 2018, ar ôl bod yn cwrdd mewn amryw o leoliadau fel UnDegUn a Chlwb Lager Wrecsam.

Dywedodd Wendy Paintsil, cyd-sefydlydd a chyfarwyddwr y côr cymunedol – sydd bellach yn perfformio ers saith mlynedd, fod Tŷ Pawb yn cynnwys y cymysgedd cywir o gyfleusterau ar gyfer aelodau ac yn cyd-fynd ag ethos y côr fel “côr pawb”.

Meddai Wendy: “Mae arnom ni eisiau denu llawer o bobl. Rydym ni’n gôr cymunedol ac ar agor i bawb, beth bynnag fo’u profiad, oed, siâp, maint. Mae arnom ni eisiau denu pawb sy’n hoffi canu, ond efallai heb fagu digon o hyder yn y gorffennol i fynd ati i ymuno â chôr.

“Gydag agoriad Tŷ Pawb, roeddem yn teimlo mai yma rydym ni eisiau bod. Yn enwedig oherwydd yr enw – mae ‘Tŷ Pawb’ yn ‘gartref i bawb’, ac rydym ni’n ystyried ein hunain fel ‘côr pawb’”.

Yn gynharach eleni, defnyddiodd y côr eu cysylltiadau rhyngwladol i gynnal perfformiad gan Northern Harmony, côr rhyngwladol o’r Unol Daleithiau, yn Nhŷ Pawb.

“Bu i ni wahodd Northern Harmony i Dŷ Pawb, a daeth hynny a chynulleidfa o Swydd Amwythig, Swydd Gaer ac o fannau eraill o ogledd Cymru.

“Canolbwyntio ar y gymuned” – Dewch i gwrdd â’r grwpiau sydd wedi ymgartrefu yn Nhŷ Pawb

“Mae ethos y lleoliad yn cyd-fynd â’r côr – mae’n croesawu ac yn agored.

“Mae’r man lle rydym ni’n cyfarfod yn anffurfiol iawn, ac mae hynny’n gwneud pethau’n haws i bobl. Rydym ni’n gôr lle fedrwch chi ddod i ymarfer ac ymuno. Mae pobl yn teimlo’n hapus ac rydym ni’n gallu eu helpu i oresgyn unrhyw nerfusrwydd.

“Mae’r staff wedi bod yn grêt – maen nhw wedi ein croesawu a’n cefnogi.

“Ac mae’r gwerthwyr wedi bod yn grêt hefyd. Mae Curry on the Go yn aros ar agor i ni yn ystod yr ymarferion gyda’r nos, ac mae ganddyn nhw enw da iawn gyda’r aelodau.”

“Rydym ni hefyd yn falch iawn o fod yn rhan o ganolfan gelfyddydol gymunedol Wrecsam. Fel côr, mae llawer o’r aelodau yn cymryd rhan yn y celfyddydau lleol.

“A phan fyddwn yn ymarfer, mae’r aelodau yn gallu gweld pa arddangosfeydd a digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal yma – a phan fydd gennym ni bron i gant o aelodau yma, mae’r aelodau hynny yn gweld y gofodau sydd ar gael ac yn dod yn ôl ar gyfer digwyddiadau eraill. Rydym ni’n gwybod bod rhai o’n haelodau yn mynd i berfformiadau cerddoriaeth fyw a nosweithiau meic agored.”

“Roeddwn yn meddwl y byddai’n lle delfrydol – a ches i ddim fy siomi!”

Mae Colin Trueman, o VOD Records yr Wyddgrug, wedi hen arfer gwerthu recordiau, ond doedd o ddim yn disgwyl torri record.

Ym mis Tachwedd ymunodd Colin â thîm Tŷ Pawb i drefnu ffair recordiau – ei ffair gyntaf yn Wrecsam ers pum mlynedd.

Denodd y digwyddiad dros 700 o bobl – y digwyddiadau mwyaf poblogaidd sydd wedi ei gynnal yn Nhŷ Pawb.

“Canolbwyntio ar y gymuned” – Dewch i gwrdd â’r grwpiau sydd wedi ymgartrefu yn Nhŷ Pawb

Meddai Colin: “Mae peth amser wedi mynd heibio ers i ni gynnal ffair recordiau yn Wrecsam, ac mae Tŷ Pawb yn ofod gwych.

“Roeddwn yn meddwl y byddai’n lle delfrydol – a ches i ddim fy siomi! Dydach chi ddim yn gwybod sut fydd pethau yn mynd mewn lleoliad newydd, a ches i fy siomi ar yr ochr orau.

“Daeth 700 o bobl – a mwy o bosibl. Roedd yn brysur drwy gydol y dydd, o fore gwyn tan nos.

“Roeddwn wedi clywed llawer o bethau am Dŷ Pawb ac roedd arnaf eisiau cefnogi’r lleoliad, a doedd rhai pobl ddim yn gallu credu bod lleoliad o’r fath ar garreg eu drws.

“Roedd yn lleoliad gwych, mae’n ofod eang ac roedd lle ar gyfer stondinau ychwanegol.”

Dywedodd Colin fod y ffair yn cyd-fynd yn dda efo hunaniaeth Tŷ Pawb, gan nodi “Mae ffeiriau recordiau yn ddigwyddiadau cymunedol.”

Bydd y ffair recordiau yn dychwelyd i Dŷ Pawb, gyda ffair haf ar 11 Mai a ffair aeaf ar 23 Tachwedd.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol ty pawb Mae Tŷ Pawb yn un oed…felly beth yw hanes yr adeilad cymunedol hyd yma?
Erthygl nesaf Oes angen help arnoch i hawlio Credyd Cynhwysol? Mae llyfrgelloedd Wrecsam yma i helpu! Oes angen help arnoch i hawlio Credyd Cynhwysol? Mae llyfrgelloedd Wrecsam yma i helpu!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 17, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English