Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Brymbo i ail agor gyda system archebu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Brymbo i ail agor gyda system archebu
Y cyngor

Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Brymbo i ail agor gyda system archebu

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 26, 2021 2:29 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Ailgylchu Gwastraff
RHANNU

Gan fod Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Brymbo wedi gorfod cau ddydd Gwener diwethaf oherwydd problemau traffig, rydym wedi edrych eto ar y sefyllfa gyda gweithredwr y safle ac rydym wedi cytuno i ail-agor am hanner dydd (12pm) yfory, dydd Mercher 20.05.20. Fe fyddwn yn defnyddio system archebu ymlaen llaw a bydd canllawiau llym ar waith.

Er mwyn trefnu apwyntiad ar gyfer safle Brymbo yn unig, ffoniwch 01978 801463 rhwng 8am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Ar ôl i chi gyrraedd y cyfleuster, bydd eich enw a’ch rhif cofrestru’n cael ei gofnodi fel cyfeirnod ar gyfer eich slot archebu. Ar ôl i chi gyrraedd y safle bydd angen i chi ddangos

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg, ac ni chaniateir trelars.

Dilynwch y 10 rheol ganlynol i gadw pawb yn ddiogel

Fe fyddwn yn gweithredu amodau llym iawn er mwyn sicrhau diogelwch staff a’r cyhoedd.

Dilynwch y 10 rheol yma:

  1. Peidiwch â mynd i’r safleoedd os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd symptomau o Covid-19, neu os ydych chi’n cael eich gwarchod am fod gennych gyflwr iechyd presennol.
  2. Dewch â gwastraff yr aelwyd yn unig gyda chi. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol neu wastraff busnes gyda chi.
  3. Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel. Ffoniwch 01978 801463 i drefnu apwyntiad os hoffech chi ddefnyddio safle Brymbo.
  4. Byddwch yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros mewn ciw. Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg. Ni chaniateir trelars ar safle Brymbo.
  5. Sicrhewch mai dim ond un person sydd yn dod allan o’r cerbyd er mwyn dadlwytho, a’u bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Nodwch fod rhaid i blant aros yn y car trwy’r amser a ni chaniatawyd anifeiliaid anwes ar y safle.
  6. Peidiwch â dod ag eitemau sydd yn rhy fawr neu’n rhy drwm i chi eu cario eich hun. Ni fydd ein gweithwyr yn cael eich helpu i ddadlwytho eich car, na chael gwared ar eich gwastraff.
  7. Sortiwch eich gwastraff cyn i chi gyrraedd (er mwyn i chi fod yn gyflym).
  8. Byddwch yn gwrtais. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol tuag at ein staff. Bydd gan weithwyr ar y safle gamerâu a wisgir ar y corff, bydd unrhyw achosion yn cael eu hymadrodd i’r heddlu.
  9. Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb ar y safle, a dewch â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os allwch chi (glanhewch eich dwylo gyda’r hylif cyn i chi yrru nôl am adref).
  10. Os oes gennych chi eitemau ar gyfer y siop ailddefnyddio (e.e. beiciau a nwyddau eraill mewn cyflwr y gellir eu defnyddio eto) gadewch nhw adref am rŵan.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Ar ôl archwilio’r safle ac er mwyn sicrhau fod diogelwch y cyhoedd a’r staff yn parhau’n flaenoriaeth, rydym yn falch y bydd y safle yn ailagor ac rydym ni’n rhagweld y bydd y system archebu ymlaen llaw yn gweithio’n dda, gan reoli’r galw disgwyliedig.

Cofiwch na chaniateir trelars yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Brymbo, a dim ond y rhai sydd ag apwyntiad fydd yn cael mynediad i’r safle”.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Life Under Lockdown Amgueddfa am gofnodi “Bywyd Lleol yn ystod y Cyfyngiad ar Symud” 2020 ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Erthygl nesaf Diolch i Athrawon Mae’n Ddiwrnod Diolch i Athrawon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English