Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canolfan Gymraeg a diwylliannol ‘Hwb Cymraeg’ yn dychwelyd unwaith eto yn FOCUS Wales
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Canolfan Gymraeg a diwylliannol ‘Hwb Cymraeg’ yn dychwelyd unwaith eto yn FOCUS Wales
Busnes ac addysgPobl a lleYn cael sylw arbennig

Canolfan Gymraeg a diwylliannol ‘Hwb Cymraeg’ yn dychwelyd unwaith eto yn FOCUS Wales

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 10:47 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Hwb Cymraeg in Wrexham
RHANNU

Wedi’i leoli tu mewn i babell fawr ar Sgwâr y Frenhines, mae mynediad i’r Hwb Cymraeg yn rhad ac am ddim tan 6pm trwy gydol y penwythnos hir.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Os mai dim ond ‘diolch,’ neu ‘un, dau, tri’ sydd gennych o ran y Gymraeg – neu os ydych chi’n rhugl, bydd Hwb Cymraeg yn FOCUS Wales eleni yn gyfle delfrydol i ymdrochi yn iaith a diwylliant Cymru.

Ddydd Iau bydd cacennau a sgwrs o 12pm ymlaen, ac yna’r cyfle i ddysgu ychydig o Gymraeg am 12.30pm, a sesiwn gemau bwrdd cyn i gerddorion lleol a rhyngwladol ddechrau llenwi’r lleoliad gyda cherddoriaeth.

Bydd gweithgareddau dydd Gwener yn dechrau am 10am gyda chacen a sgwrs, ac yna cyfle arall i ddysgu Cymraeg a chwarae gemau bwrdd, cyn i’r perfformwyr cerddorol gamu i’r llwyfan yn y prynhawn.

Bydd dydd Sadwrn yn ddiwrnod i’r teulu cyfan yn yr Hwb Cymraeg gyda gweithgareddau megis sesiwn Ukulele, disgo tawel, a gweithdai drama wedi’u cynllunio i’r teulu cyfan eu mwynhau.

Yn ogystal ag amserlen brysur o ddigwyddiadau, bydd bar llawn a diodydd poeth ar gael drwy gydol yr Ŵyl tu mewn i’r Tipi Hwb Cymraeg – bydd yn lleoliad delfrydol i gyfarfod â ffrindiau, a chreu cysylltiadau newydd dros gyfnod gŵyl Focus Wales.

Un o sgil effeithiau llwyddiannau Clwb Pêl-droed Wrecsam yw, mae yna ymwybyddiaeth ryngwladol gynyddol o’n diwylliant, iaith a threftadaeth.  Hwb Cymraeg fydd canolbwynt diwylliant, iaith a threftadaeth Gymreig dros y penwythnos felly dewch draw i fwynhau’r awyrgylch, neu i ddysgu ychydig o Gymraeg y gallwch wedyn ei ddefnyddio yn eich bywyd bob dydd, neu ar gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Stephen Jones, Swyddog y Gymraeg, Cyngor Wrecsam: “Hoffwn ddiolch i’r holl fudiadau sy’n rhan o’r digwyddiad, gan gynnwys: Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Mudiad Meithrin, Coleg Cambria, Focus Wales, Theatr Clwyd,  Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain a’r Urdd.”

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cup cakes Beth well na Diwrnod Bwyta Cacen?
Erthygl nesaf Wrexham AFC victory parade “Da ni’n sicr yn nabod sut i roi parti ‘mlaen yn Wrecsam!”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English