Oherwydd sefyllfa newidiol Covid-19, rydym wedi gorfod cau rhai o’n cyfleusterau.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Serch hynny, bydd ein canolfannau ailgylchu ar Bryn Lane, Plas Madog a Brymbo yn aros ar agor.
Bydd Oriau Agor yn aros yr un fath, ac eithrio Dydd Nadolig pan fydd y safleuoedd ar gau.
Gallwch barhau i fynd i Bryn Lane a Phlas Madog heb apwyntiad ar hyn o bryd.
Bydd angen i chi archebu lle ymlaen llaw yn safle Brymbo fodd bynnag. Er mwyn gwneud apwyntiad, gallwch eu ffonio ar 01978 801463.
Byddwch yn ymwybodol y bydd y llinell archebu’n cau o 4pm ar Noswyl y Nadolig nes 8am, 19 Rhagfyr.
I’n helpu i gadw amser eich ymweliad mor fyr â phosib ac i gyflymu ciwiau, didolwch eich gwastraff yn barod i’w waredu yn y baeau cywir ymlaen llaw.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae cartrefi’n cynhyrchu mwy o wastraff na’r arfer dros gyfnod y Nadolig, felly rydym yn disgwyl i’n safleoedd fod yn brysur. Bydd defnyddio ein safleoedd ar adegau llai prysur yn ein helpu i leihau amser aros.
Fe fyddwn yn gweithredu amodau llym iawn er mwyn sicrhau diogelwch staff a’r cyhoedd.”
Cyn ymweld â safle, ymgyfarwyddwch gyda’n 10 rheol er mwyn cadw pawb yn ddiogel. Wrth ymweld ag un o’n safleoedd, glynwch at y rheolau hyn i gadw eich hun ac eraill yn ddiogel.
- Peidiwch â mynd i’r safleoedd os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd symptomau o Covid-19, neu os ydych chi’n cael eich gwarchod am fod gennych gyflwr iechyd presennol.
- Dewch â gwastraff yr aelwyd yn unig gyda chi. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol na gwastraff busnes gyda chi.
- Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel. Ffoniwch 01978 801463 i drefnu apwyntiad os hoffech chi ddefnyddio safle Brymbo.
- Byddwch yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros mewn ciw. Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg.
- Sicrhewch mai dim ond un person sydd yn dod allan o’r cerbyd er mwyn dadlwytho, a’u bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Nodwch os gwelwch yn dda, dylai plant aros yn y car drwy’r amser, ni chaniateir anifeiliaid anwes ar y safle.
- Peidiwch â dod ag eitemau sydd yn rhy fawr neu’n rhy drwm i chi eu cario eich hun. Ni fydd ein gweithwyr yn cael eich helpu i ddadlwytho eich car, na chael gwared ar eich gwastraff.
- Sortiwch eich gwastraff cyn i chi gyrraedd (er mwyn i chi fod yn gyflym).
- Byddwch yn gwrtais. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol tuag at ein staff. Bydd swyddogion yn gwisgo camerâu corff, felly byddant yn rhoi gwybod am unrhyw achos i’r heddlu.
- Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb ar y safle, a dewch â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os allwch chi (glanhewch eich dwylo gyda’r hylif cyn i chi yrru nôl am adref)
- Bydd y siop ail defnyddio ar y safle Bryn Lane yn aros ar gau am y tro.
???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????
CANFOD Y FFEITHIAU