Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canolfannau Hamdden Freedom Leisure yng Nghymru yn Cymryd Camau Breision Tuag Effeithlonrwydd Ynni Gwell
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Canolfannau Hamdden Freedom Leisure yng Nghymru yn Cymryd Camau Breision Tuag Effeithlonrwydd Ynni Gwell
Pobl a lleArallDatgarboneiddio Wrecsam

Canolfannau Hamdden Freedom Leisure yng Nghymru yn Cymryd Camau Breision Tuag Effeithlonrwydd Ynni Gwell

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 9, 2024 4:19 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Freedom Leisure
RHANNU

Erthygl Gwadd – Freedom Leisure

Mae Freedom Leisure, un o brif ymddiriedolaethau hamdden elusennol dielw y DU, sy’n rheoli 29 o ganolfannau hamdden ledled Cymru ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Abertawe, wedi cofleidio ei ymrwymiad i ddiogelu’r amgylchedd gydag ystod o fesurau arloesol i leihau’r defnydd o ynni. Mae’r arbediad enfawr mewn defnydd ynni, o ganlyniad, gyfwerth â rhedeg canolfan hamdden maint canolig gyda phwll nofio am 4 blynedd. Yn y broses, lleihau allyriadau carbon o 395 tunnell, sydd gyfwerth â gyrru car o amgylch cylchedd y ddaear 58 gwaith!

Mae’r ymddiriedolaeth hamdden wedi cyflawni’r arbedion hyn yn eu holl ganolfannau hamdden ledled Cymru, gan gynnwys yr atyniadau twristaidd mawr fel Parc Dŵr LC yn Abertawe a’r Byd Dŵr yn Wrecsam sy’n derbyn llawer iawn o ymweliadau drwy gydol y flwyddyn.

“Nid yw arbed dros filiwn kWh o drydan ac ychydig llai na miliwn kWh o nwy dros gyfnod o ddeuddeg mis yn broses hawdd,” meddai Angela Brown, Rheolwr Grŵp Amgylcheddol a Chynaliadwyedd Freedom Leisure, sy’n rhoi cyfran sylweddol o’r diolch am y stori lwyddiant hon i gyfranogiad ac ymrwymiad pawb sy’n rhan o’r ymgyrch.

“Rydym wedi ymdrechu i ymgysylltu â phob un cydweithiwr, cwsmer a rhanddeiliad i sicrhau eu bod yn rhannu’n gweledigaeth, o safbwynt amgylcheddol ond hefyd i sicrhau cynaliadwyedd ein canolfannau hamdden poblogaidd. Rydym i bob pwrpas wedi meithrin diwylliant o ymwybyddiaeth, gan drawsnewid arferion ac ymddygiadau gweithredol i sicrhau defnydd ystyriol o ynni ac adnoddau.”

Gyda phortffolio mawr o ganolfannau hamdden, daw amrywiaeth. Gyda phob canolfan yn unigryw o ran proffil oedran, maint ac effeithlonrwydd ynni, fe’n gorfodwyd i deilwra elfennau o’n cynlluniau arbed ynni yn ogystal â chyflwyno mesurau eraill oedd yn addas i’r grŵp cyfan. Ar flaen pob mesur bu’r angen i sicrhau amgylchedd iach, diogel a chyfforddus i’r miliynau o gwsmeriaid bob blwyddyn sy’n defnyddio’r canolfannau i wella eu lles corfforol, cymdeithasol a meddyliol.

Meddai Andy Harris, Rheolwr Rhanbarthol Freedom Leisure Cymru a Gogledd Lloegr: “Mae cydweithwyr yn cael eu hannog i awgrymu mesurau arbed ynni ac mae gennym gyfres o fesurau ynni na ellir eu negodi. Rydym yn sicrhau bod ein tîm i gyd yn gyfarwydd â rhain.  Er enghraifft, diffodd goleuadau, diffodd offer nad ydynt yn cael eu defnyddio a sicrhau bod gorchudd dros y pwll pan nad yw’n cael ei ddefnyddio, hyd yn oed os bo hynny ond am hanner awr yn ystod y dydd. Mae gennym hefyd arwyddion o amgylch ein holl ganolfannau fel y gall ein cwsmeriaid gwych ein helpu i wneud yr arbedion hyn – ymdrech ar y cyd go iawn.”

Gyda buddsoddiad ariannol sylweddol mewn arbedion ynni dros y naw mlynedd diwethaf, un o brif amcanion Freedom Leisure o hyd yw parhau i leihau allyriadau trwy weithredu mesurau arbed ynni pellach. Bydd y mesurau a gynlluniwyd ar gyfer dechrau 2024 megis gosodiadau solar PV, gwell gorchuddion i’r pyllau a gwell systemau awyru yn neuaddau’r pyllau, yn arwain at ostyngiad pellach o dros 400 tunnell o garbon.

Rhannu
Erthygl flaenorol Foster Wales ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ i gefnogi plant lleol sy’n derbyn gofal
Erthygl nesaf A picture of a young child enjoying jupingin muddy puddles. Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wneud cynnydd da yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English