Mae Cyngor Wrecsam yn canslo’r ymgynghoriad Nine Acre presennol oherwydd effaith y Coronafeirws.
Lansiwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn cael adborth ar gynigion i roi ysgol ar y safle, ac roedd disgwyl iddo gael ei gynnal tan 9 Ebrill.
Mae’r cynigion yn cynnwys adeiladu ysgol newydd ar gyfer tua 315 o ddisgyblion, ynghyd â 45 o lefydd meithrin.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Prif Weithredwr, Ian Bancroft ac Arweinydd y Cyngor, Mark Pritchard: “Oherwydd effaith y Coronafeirws a’r angen i gadw pellter cymdeithasol, rydym yn cydnabod y gall rhai pobl golli allan ar weld y cynigion – yn arbennig y trigolion sydd methu cael gafael arnynt ar-lein ac angen ymweld â swyddfeydd y cyngor.
“Mae’r feirws wedi achosi llawer o ymyrraeth i fywyd bob dydd hefyd, a gan fod cymaint o bethau i’w hystyried, gall bobl ei gweld yn anodd cael amser i edrych ar y cynigion a rhoi adborth arnynt.
“O ganlyniad i hyn, ni fyddai’n briodol symud ymlaen gyda gwaith mor bwysig â hyn ar hyn o bryd, felly rydym yn canslo’r ymgynghoriad presennol – gyda’r bwriad o lansio un newydd unwaith daw pethau’n ôl i’r arfer.”
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19