Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 1.4.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 1.4.20
Y cyngor

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 1.4.20

Diweddarwyd diwethaf: 2020/04/02 at 3:16 PM
Rhannu
Darllen 7 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad i’r wybodaeth oedd yn y blog yma ddoe (30.3.20).

Prif negeseuon heddiw

• Rydym eisiau diolch i’r holl weithwyr gofal plant proffesiynol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, yn ogystal â staff ysgol yn y fwrdeistref sirol.
• Rydym yn rhoi grantiau i fusnesau sydd yn talu ardrethi busnes.
• Rydym yn cau ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.
• Bellach, caiff marwolaethau eu cofrestru dros y ffôn.

Cynnwys
Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad i’r wybodaeth oedd yn y blog yma ddoe (30.3.20).Prif negeseuon heddiwIan Bancroft – Prif WeithredwrMark Pritchard – Arweinydd y CyngorDiolch i weithwyr gofal plant proffesiynol a staff ysgolCefnogaeth i fusnesau lleolGrantiau ar gyfer eich busnes?Gwastraff ac ailgylchuCanolfannau Ailgylchu Gwastraff y CartrefCofrestru marwolaeth dros y ffônAllwch chi helpu fel gwirfoddolwr?Nodyn i’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Diolch i weithwyr gofal plant proffesiynol a staff ysgol

Rydym eisiau diolch o waelod calon heddiw i weithwyr gofal plant yn y fwrdeistref sirol.

Mae yna gymaint o bobl mewn cymaint o broffesiynau gwahanol sydd yn chwarae rôl holl bwysig ar hyn o bryd, ac mae gweithwyr gofal plant proffesiynol yn haeddu ein diolch a’n cydnabyddiaeth.

Mae’r sefyllfa’n newid yn ddyddiol, ond ar hyn o bryd mae gennym 33 lleoliad gofal plant grŵp ar agor yn Wrecsam (e.e. meithrinfeydd dydd), yn ogystal â 33 o warchodwyr plant sydd yn parhau i ddarparu gwasanaethau.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Trwy aros ar agor, maent yn sicrhau fod gweithwyr allweddol sydd ag anghenion gofal plant yn gallu parhau i wneud eu swyddi a helpu i’n cadw’n ddiogel. Maent hefyd yn helpu i sicrhau y gellir gofalu am blant diamddiffyn mewn modd diogel.

Rydym eisiau diolch o waelod calon hefyd i bawb sydd yn gweithio yn ein hysgolion ar hyn o bryd – yn cynnwys penaethiaid, athrawon, y staff arlwyo, staff cymorth a gwirfoddolwyr.

Trwy gadw ein hysgolion ar agor i blant gweithwyr allweddol – yn ogystal â phlant diamddiffyn – maent yn gwneud cyfraniad enfawr ac mae’n anodd dod o hyd i eiriau i wneud cyfiawnhad â nhw.

Rydym yn ddiolchgar tu hwnt am bopeth rydych chi’n ei wneud.

Cefnogaeth i fusnesau lleol

Mae effaith y Coronafeirws wedi bod yn annisgwyl a chreulon i nifer o bobl sy’n rhedeg busnes.

Serch hynny mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yn cydweithio i ddarparu cymaint o gefnogaeth ag y gallwn…nid flwyddyn nesaf, nid fis nesaf, ond rŵan.

Un ffordd rydym ni’n ceisio helpu yw rhoi grantiau i fusnesau sydd yn talu ardrethi busnes.

Hyd yn hyn, rydym wedi talu £845,000 i gaffis, siopau, trinwyr gwallt a mathau eraill o fusnesau yn Wrecsam, a bydd £525,000 arall yn cael ei dalu erbyn ddydd Gwener yma (3 Ebrill).

Mae’r cymorth ariannol yn hanfodol i helpu i ddiogelu ein economi lleol a swyddi, ac rydym i’n parhau i brosesu grantiau’n ddyddiol.

Gallwch ddarllen mwy am y grantiau isod, ac os ydych chi’n rhedeg busnes, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r cymorth gwahanol sydd ar gael. Fe allai wneud gwahaniaeth enfawr i sicrhau fod eich busnes yn goroesi’r argyfwng yma.

Grantiau ar gyfer eich busnes?

Ydych chi’n talu ardrethi busnes? Gall Cyngor Wrecsam ddarparu grantiau o £10,000 i gwmnïau sydd yn derbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach.

Mae’r arian ar gael gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r grantiau wedi’u hanelu at fusnesau sydd wedi’u lleoli mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000.

Mae grant o £25,000 hefyd ar gael i fusnesau yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch, sydd wedi’u lleoli mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.

Dim ond ar gyfer cwmnïau sydd ar y gofrestr ardrethi busnes ar 20 Mawrth, 2020 y mae’r ddau grant ar gael

I wneud cais, darllenwch y canllawiau ar ein gwefan ac os ydych chi’n credu fod eich busnes yn gymwys, llenwch y ffurflen ar-lein.

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth, neu eisiau gwybod am becynnau cefnogaeth eraill, cysylltwch â’n tîm Busnes a Buddsoddi drwy ffonio 01978 667300 neu e-bostiwch business@wrexham.gov.uk

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Gwastraff ac ailgylchu

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Rydym yn cau pob un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Fe gaeodd safle Plas Madoc ddoe, a bydd Bryn Lane a Brymbo yn cau am 4pm ddydd Gwener yma (3 Ebrill).

Yn y cyfamser, cofiwch mai dim ond os oes wirioneddol raid y dylech ymweld â’n canolfannau ailgylchu.

Os bydd y safleoedd yn rhy brysur, efallai y bydd rhaid i ni ystyried eu cau yn gynt na’r disgwyl.

Rydym ni’n cau’r safleoedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU ar deithio hanfodol.

Cofrestru marwolaeth dros y ffôn

Pan fydd pobl yn cofrestru marwolaeth un o’u hanwyliaid, fe wyddom y gall fod yn gyfnod anodd a llawn gofid iddynt.

Er mwyn cefnogi mesurau cadw pellter cymdeithasol, nid ydym bellach yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb.

Serch hynny, gall unrhyw un sydd eisiau cofrestru marwolaeth ffonio 01978 298997 i wneud apwyntiad dros y ffôn.

Bydd y Cofrestrydd yn eu ffonio nôl ar amser yr apwyntiad, a byddant yn darparu’r un gefnogaeth drugarog a phroffesiynol ag arfer.

Mae ysbytai lleol, meddygon teulu a chyfarwyddwyr angladdau yn ymwybodol o’r weithdrefn newydd.

Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?

Fe allwch chi gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff i ddarparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cyfeillio cymunedol.

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn annog pobl i gofrestru.

Nodyn i’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19

Caiff gwybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys y Prif Weinidog).
• Mewn briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym iawn, felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth fel y bo angen ac fel y bo’n briodol.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19

Rhannu
Erthygl flaenorol museum Amgueddfa Wrecsam o gartref!
Erthygl nesaf Nine Acre Canslo ymgynghoriad Nine Acre oherwydd Covid-19

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English