Mae rhaglen llawn adloniant wedi’i threfnu ar gyfer un o brif wyliau llenyddol Cymru. Mae Carnifal Geiriau Wrecsam nawr yn ei 8fed blwyddyn ac mae’n rhan o’r calendr llenyddol yng Nghymru a’r gororau yn denu ystod eang o awduron adnabyddus. Mae’r trefnwyr yn falch iawn y bydd cynulleidfaoedd byw yn ôl ar gyfer yr ŵyl eleni a gynhelir rhwng 22-30 Ebrill.
Ymhlith y nifer o awduron fydd yn ymddangos yng Ngharnifal 2022 fydd gwerthwr gorau y Sunday Times Milly Johnson, un o’r 10 Uchaf o’r awduron ffuglen benywaidd gorau yn y DU a’r poblogaidd Gervase Phinn, sy’n cael ei adnabod orau am ei atgofion twym-galon fel arolygydd ysgol yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Hefyd yn ymddangos eleni fydd yr awdur trosedd cyfareddol Mark Billingham, Simon McGleeve â’i lyfr The Snowdonia Killings yn hynod boblogaidd a Kate Ellis fydd yn gwneud ymddangosiad arbennig yn y digwyddiad dirgelwch llofruddiaeth poblogaidd.
Ni fydd cefnogwyr hanes yn dymuno methu Barbara Erskine, brenhines y genre rhwng y gorffennol a’r presennol a chawr ffuglen hanesyddol Patricia Bracewell sy’n hedfan o’r UDA yn arbennig ar gyfer y Carnifal. Bydd yr awdur lleol Peter Evans yn rhannu ei siwrnai i fyny’r afon Dyfrdwy tra bydd Chris Clode yn rhannu ei angerdd am chwareli llechi Gogledd Cymru, nawr yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Bydd Matthew Hall, wnaeth greu ac ysgrifennu’r gyfres deledu boblogaidd Keeping faith aKavanagh Q Cyn siarad am ei fywyd trosedd a chyn weinidog y llywodraeth Alan Johnson yn dychwelyd i’r Carnifal eleni i drafod ei lyfrau newydd The late Train to Gipsy Hillsef ei nofel gyffrous gyntaf. Hefyd yn ymddangos yn y Carnifal fydd Sarah Hilary, enillodd ei nofel gyntaf wobr Nofel Gyffrous y Flwyddyn Theakston, a’r awdur stori fer sydd wedi ennill gwobrau, Carys Davies.
Bydd yna ddigwyddiadau cyfrwng Cymraeg gyda Iestyn Tyne ac Elan Grug Muse a Bethan Gwanas, yr awdur dros 40 o lyfrau yn y Gymraeg, fydd yn sgwrsio am ei llyfr diweddaraf a gyd-ysgrifennwyd gyda’r ci!
Mae Deliverance yn disgrifio’r ymchwiliadau bob dydd i ysbrydion swnllyd, ysbrydion a ffenomena goruwchnaturiol a gynhaliwyd gan y Parch. Dr Jason Bray, Ficer Eglwys San Silyn, y gweinidog gwaredigaeth Anglicanaidd cyntaf i ysgrifennu am ei brofiadau.
Bydd awduron lleol a darpar awduron yn gallu mynychu digwyddiad am ddim i gyfarfod awduron lleol eraill, beirdd, blogwyr, newyddiadurwyr a chyfansoddwyr caneuon a chymryd rhan yn y sesiynau panel. Mae Viva Voce yn ddigwyddiad meic agored i feirdd lleol rannu eu gwaith a chael eu diddanu gan eu cyfoedion. Bydd yna ddarllenathon gan garwyr llyfrau lleol y nofel glasurol gan George Eliot Middlemarch.
Estynnir gwahoddiad cynnes i deuluoedd i ddigwyddiad am ddim yn Yellow & Blue yn Sgwâr Henblas ble bydd storïwyr plant, Jacqui Bloor, Fiona Collins, Jude Lennon, Krishnapyia Ramamoorthy a Sarah Parkinson yn cynnal “Stori i’r Teulu Cyfan’ ddydd Sadwrn 24 Ebrill.
Mae Dylan Hughes, Cyfarwyddwr yr Ŵyl wedi dweud “mae’r Carnifal yn ôl eleni gyda rhaglen gyffrous ac amrywiol o ddigwyddiadau ac rydym yn falch iawn i allu gwahodd cynulleidfaoedd byw yn ôl i weld awduron a beirdd yn bersonol.”
Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau yn www.wrexhamcarnivalofwords.com.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH