Rydym yn gwybod fod casglu biniau gwastraff a biniau ailgylchu yn brydlon yn bwysig iawn i bob un ohonom yn Wrecsam, ac i’r mwyafrif ohonom, mae hyn yn digwydd yn ddidrafferth.
Fodd yn bynnag yn ddiweddar mae ein criw casglu sbwriel wedi adrodd bod problemau lle na allent gael mynediad at stryd oherwydd bod ceir wedi parcio sydd yn achosi problem mynediad. Gan fod cynifer ohonom gartref ar hyn o bryd mae hyn yn debygol o barhau.
Gallwch ein helpu i osgoi hyn drwy gymryd gofal ychwanegol wrth barcio eich cerbydau ar eich diwrnod casglu. Rydym yn deall nad oes gan bawb dramwyfa neu garej, ac mae’r bobl hyn yn gorfod parcio ar y stryd.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Ond os ydych chi’n gwybod y bydd eich biniau’n cael eu casglu, edrychwch ar y stryd ac ewch i weld os oes digon o le i’n cerbydau mawr allu ymgymryd â’u dyletswyddau’n ddiogel.
Meddai’r Cyng David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym yn gwneud casgliadau o 64,000 o gartrefi’r wythnos ond o bryd i’w gilydd, nid ein cerbydau yn gallu cyrraedd lleoliadau, ac mae hyn yn arwain at fethu casgliadau’n ac yn siomi rhai pobl. Rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad yn ystod y cyfnod anodd hwn i sicrhau bod y gwasanaethau yn cael eu cynnal”
Edrychwch ar y lluniau isod a chewch weld rhai o’r problemau y mae ein lorïau bin a’n cerbydau ailgylchu yn eu hwynebu o ganlyniad i geir/faniau sydd wedi parcio ac yn eu rhwystro rhag cael mynediad at eiddo.
Cofiwch, mae ein lorïau yn drwm ac yn llydan, felly mae’n rhaid i’n gyrwyr fod yn sicr y gallant deithio ar hyd strydoedd a throi’r cerbyd heb achosi unrhyw ddifrod. Os na allent bydd rhaid iddynt adael heb fynd â’r gwastraff neu ailgylchu… rydym yn sicr nad ydych eisiau achosi sefyllfa lle nad yw’r biniau wedi cael eu casglu ar hyd y stryd gyfan.
Mae technoleg wedi’i osod ym mhob un o’n cerbydau – gan gynnwys teledu cylch caeedig – sy’n caniatáu i’r criwiau gadw cofnod o finiau nad ydynt wedi’u cyflwyno cyn 07:30am, neu unrhyw broblemau yn ymwneud â mynediad, sy’n atal ein criwiau rhag ymgymryd â chasgliadau.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
LATEST INFO ON COVID-19