green bin

Hoffem atgoffa preswylwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd y cesglir gwastraff yn llai aml yn ystod mis Rhagfyr, Ionawr a Chwefror.

Drwy gasglu’n llai aml bydd ein staff yn rhydd i fynd i’r afael â phethau eraill sy’n codi oherwydd y tywydd oer, fel graeanu ffyrdd a gwaith cynnal a chadw cyffredinol.

Fe fydd preswylwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd yn dal i gael o leiaf un casgliad bob mis rhwng dechrau mis Rhagfyr a diwedd mis Chwefror. Mae’n werth cael golwg ar y calendr neu gofrestru i gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost fel nad ydych yn colli unrhyw gasgliadau.

Byddwn yn dychwelyd i’r drefn o gasglu bob pythefnos ym mis Mawrth, wrth i’r galw gynyddu yn y gwanwyn.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Defnyddiwch y calendr biniau i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Mae’r calendrau casgliadau biniau ac ailgylchu newydd ar gyfer 2022-23 ar gael ar ein gwefan bellach.

Os ydych am weld eich calendr biniau ar gyfer y deuddeg mis nesaf, ewch i wrecsam.gov.uk/biniau, sgroliwch i lawr a chlicio ar eich calendr.

Mae’n ffordd rhwydd iawn o weld gwybodaeth am eich casgliadau, a gall olygu na fyddwch chi’n methu casgliadau biniau.

Derbyn rhybudd yn eich atgoffa i roi eich bin allan

Os nad ydych chi am fod yn gwirio eich calendr bob wythnos, gallwch gofrestru i gael rhybudd e-bost yn lle hynny. Caiff ei anfon y diwrnod cyn eich diwrnod casglu i’ch atgoffa i roi eich bin allan, a pha un i’w roi allan.

Ydych chi am gael y negeseuon hyn? Cliciwch ar y botwm isod.

DERBYN RHYBUDD YN EICH ATGOFFA I ROI EICH BIN ALLAN