Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
start-up clinics
Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!
Busnes ac addysg
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
DigwyddiadauPobl a lle

CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025

Diweddarwyd diwethaf: 2025/06/26 at 12:23 PM
Rhannu
Darllen 7 funud
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
RHANNU

Dydd Sadwrn hwn (28/06/25) dewch i gwrdd â thîm Amgueddfa Ddwy Hanner newydd Wrecsam! Wedi’i threfnu i agor yn 2026, bydd yr atyniad cenedlaethol newydd sbon hwn yn cynnwys Amgueddfa Wrecsam wedi’i gwella a’i hehangu, ochr yn ochr ag Amgueddfa Bêl-droed newydd i Gymru.

Bydd y tîm ar safle’r Hippodrome wrth ymyl y Crys enfawr ddydd Sadwrn, lle byddwch chi’n gallu cymryd rhan mewn rhai crefftau pêl-droed teuluol a darganfod mwy am yr amgueddfa newydd!
Bydd Tŷ Pawb hefyd ar y safle gan y byddant yn cynnal parthau cefnogwyr teuluol ar gyfer gemau Ewro menywod Cymru yr haf hwn – dewch i wylio holl gyffro Cymru YN FYW ar y sgrin enfawr!

Dewch i gwrdd â’r tîm i greu eich baner llaw eich hun, dysgu hanes pêl-droed menywod Cymru ac am yr holl weithgareddau teuluol AM DDIM y byddwn yn eu cynnal dros wyliau’r haf.

Bydd gennym hefyd ein timau lles a chwarae gyda’n bwrdd dartiau pêl-droed enfawr a gweithgareddau eraill sy’n addas i deuluoedd!

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

ERTHYGLISOD – ERTHYGL GWADD GAN CPD CYMRU

Ar ddiwrnod cyhoeddi carfan hanesyddol Cymru ar gyfer UEFA EWRO Menywod 2025 (Dydd Iau 19 Mehefin), bydd CBDC yn datgelu crys anferth Cymru wedi’i chwythu fyny wrth droed Yr Wyddfa, gan nodi lansiad Taith ‘Ein Crys Cymru’ ledled y genedl.

Bydd enwau’r chwaraewyr a ddewiswyd ar gyfer UEFA EWRO Menywod 2025 yn cael eu harddangos yn falch ar gefn y crys enfawr, mewn anrhydedd i’r unigolion fydd yn cynrychioli’r genedl ar lwyfan Ewropeaidd. O Eryri, bydd y crys yn teithio i drefi a dinasoedd Cymru i adeiladu cyffro ledled y wlad wrth i ni baratoi ar gyfer y twrnamaint yn y Swistir yr haf hwn.

Mae taith ‘Ein Crys Cymru’ yn dathlu pwrpas uwch Tîm Cenedlaethol Cymru:
‘I chwarae dros newid. I chwarae i ysbrydoli. Amdanom Ni. Amdanyn Nhw. Amdani Hi.’
sy’n anrhydeddu’r arloeswyr a frwydrodd dros greu’r tîm cenedlaethol menywod, yr arwyr sydd yn gwisgo’r crys heddiw, a’r cenedlaethau’r dyfodol sydd i ddod.

I lawer, mae crys Cymru yn symbol o hunaniaeth, gwydnwch ac ymdeimlad o berthyn. Pan ffurfiwyd y tîm menywod cenedlaethol gyntaf, roedd y chwaraewyr yn gwisgo citiau dynion. Nid tan 2019 y gwelodd chwaraewyr menywod Cymru eu henwau eu hunain wedi’u hargraffu’n falch ar gefn eu crysau, moment allweddol o ran cydnabyddiaeth a chynrychiolaeth.

CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025

Dywedodd cyn-gapten Cymru ac Is-lywydd UEFA, Athro Laura McAllister CBE:
“Chwaraeais i Gymru ar adeg pan oedd cael ein cit ein hunain yn teimlo fel moethusrwydd. Mae’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud ers hynny’n anhygoel, ac mae’n amlwg faint mwy y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd. Mae crys Cymru yn fwy na dim ond ffabrig, mae’n cynnig bathodyn o anrhydedd, ac mae’r daith genedlaethol hon yn cynnig cyfle i ni gyd fyfyrio, dathlu, ac i ddangos i bob merch yng Nghymru fod ganddyn nhw le ym mhêl-droed.”

Dywedodd Capten Cymru, Angharad James: “Pan rydw i’n gwisgo’r crys hwn, mae’n cynrychioli pob menyw sydd wedi paratoi’r ffordd i ni, a’r rhai a frwydrodd i ni fod yn y fan hon. Mae’r tîm Cymru hwn wedi ennill ei le ar y llwyfan mwyaf, ac fe wnawn ni wisgo’r crys hwn gyda balchder. Mae’r crys hwn yn perthyn i bob un ohonom, ac rydyn ni eisiau i bawb yng Nghymru deimlo’n rhan o’n taith i’r Swistir.”

Ychwanegodd Bethan Woolley, Arweinydd Strategol Pêl-droed Menywod a Merched CBDC: “Mae crys Cymru yn symbol pwerus o ba mor bell mae’r gêm fenywaidd wedi dod, ac i ble mae’n mynd. Nod y daith ‘Ein Crys Cymru’ yw dathlu’r menywod sy’n gwisgo’r crys ac ymgorffori eu straeon yng ngwead ein cenedl.

“Mae’r daith hon yn rhan o genhadaeth ehangach CBDC i sicrhau bod y chwaraewyr hanesyddol hyn nid yn unig yn cael eu gweld, ond eu dathlu ac yn cael eu hadnabod yn wirioneddol. Trwy weithredai gwahanol cyn ac yn ystod y twrnamaint, bydd CBDC yn manteisio ar y cyfle hanesyddol hwn nid yn unig i ysgogi cefnogaeth, ond i droi edmygedd yn gydnabyddiaeth, ac i droi cydnabyddiaeth yn etifeddiaeth.”

Bydd Taith ‘Ein Crys Cymru’ yn cychwyn yn Llanberis wrth droed Yr Wyddfa ar 19 Mehefin, ac yn teithio i drefi a dinasoedd ledled Cymru wrth i ni baratoi ar gyfer UEFA EWRO Menywod 2025. Gall cefnogwyr fod yn rhan o’r daith a dangos eu cefnogaeth mewn un o’r lleoliadau sydd i ddod.

Dyddiadau a lleoliadau Taith ‘Ein Crys Cymru’:

  • Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf – Caerdydd – Castell Caerdydd – 9yb–4yp
  • Dydd Iau 19 Mehefin – Llanberis – Cae’r Ddôl – Maes Canolfan Gymunedol Llanberis – 10yb–6yp
  • Dydd Sadwrn 21 Mehefin – Aberystwyth – Concourse Llys y Brenin
  • Dydd Sul 22 Mehefin – Dinbych-y-pysgod – Harbwr Dinbych-y-pysgod – 10yb–5yb
  • Dydd Llun 23 Mehefin – Caerfyrddin – Sgwâr Neuadd y Dref – 11yb–7yp
  • Dydd Mawrth 24 Mehefin – Abertawe – Sgwâr Dewi Sant – 10yb–6yp
  • Dydd Iau 26 Mehefin – Caernarfon – Y Maes Sgwâr y Castell – 11yb–7yp
  • Dydd Gwener 27 Mehefin – Llandudno – Promenâd Traeth y Gogledd Llandudno – 11yb–7yp
  • Dydd Sadwrn 28 Mehefin – Wrecsam – Yr Hippodrome – 10yb–6yb
  • Dydd Sul 29 Mehefin – Y Drenewydd – I’w gadarnhau
  • Dydd Mercher 2 Gorffennaf – Merthyr Tudful – I’w gadarnhau
  • Dydd Iau 3 Gorffennaf – Pontypridd – Parc Coffa Ynysangharad – 11yb–7yp
  • Dydd Gwener 4 Gorffennaf – Casnewydd – Sgwâr John Frost – 9yb–5yp

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu eich lluniau o Daith ‘Ein Crys Cymru’ ar draws y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #ForHer a #EWRO2025.

Rhannu
Erthygl flaenorol Pontcysyllte aqueduct Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Erthygl nesaf Tidy Wales Awards 2025 Gwobrau Cymru Daclus 2025 – mae’r enwebiadau nawr ar agor!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

start-up clinics
Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!
Busnes ac addysg Gorffennaf 16, 2025
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 16, 2025
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Gorffennaf 16, 2025
wrexham library
Digwyddiadau

‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)

Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English