Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Pobl a lle

Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 23, 2025 5:00 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Pontcysyllte aqueduct
RHANNU

Erthygl Gwadd – Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Tirwedd Cenedlaethol

Ymunwch â’r Panel Dinasyddion Heddiw

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Estynnir gwahoddiad i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr â Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i chwarae rhan hollbwysig mewn llunio dyfodol un o dirweddau harddaf a mwyaf nodedig y DU yng Ngogledd Cymru [1].

I ddechrau, gall aelodau’r cyhoedd ychwanegu eu llais at yr hyn y maent yn ei feddwl sy’n gwneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arbennig [2]. Bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio i benderfynu pa rannau o’r dirwedd genedlaethol gydnabyddedig honno a fydd yn cael sylw a gofal arbennig ychwanegol.

Yn ogystal â hynny, bydd nifer gyfyngedig o bobl yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn Panel Dinasyddion – sy’n cynnwys pobl gyffredin sy’n byw ac yn gweithio yn y dirwedd ac yn ymweld â hi – i roi ffocws i dîm a phartneriaid y Dirwedd Genedlaethol am y pum mlynedd nesaf [3].

“Mae hwn yn brosiect mor gyffrous. Rydym am gael pobl i gymryd rhan er mwyn helpu i lunio sut y gofelir am y dirwedd werthfawr hon a’i gwella ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai David Shiel, Rheolwr Ardal Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. “P’un a ydych chi’n byw yn yr ardal, yn gweithio yma, neu’n ymwelydd, mae eich llais yn bwysig.”

Bydd y Panel yn trafod y tair prif thema ganlynol:

  • Natur a Defnydd Tir – gan gynnwys adfer natur, newid yn yr hinsawdd a rheoli tir.
  • Cymunedau a Gwydn – edrych ar wasanaethau, tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth.
  • Mwynhad a Lles – gan gynnwys twristiaeth, hamdden a pha fath o economi ymwelwyr sydd orau i’r ardal.

I gofrestru cliciwch ar y ddolen ganlynol

Y dyddiad cau i gofrestru yw 31 Gorffennaf 2025.

Aeth David Shiel ymlaen i ddweud, “Pwrpas Tirwedd Genedlaethol yw gwarchod a gwella harddwch naturiol y dirwedd. Ond nid dyna’r cyfan. Rhaid iddi hefyd gefnogi cymunedau ffyniannus, natur gwydn a thwristiaeth gynaliadwy. I wneud hynny’n dda, mae angen i ni glywed yn uniongyrchol gan y bobl sy’n adnabod ac yn mwynhau’r ardal orau.”

Mwy o gwybodaeth

[1] Beth Sy’n Gwneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Mor Arbennig?

Yn ymestyn o lethrau arfordirol Mynydd Prestatyn yn y gogledd i Fynyddoedd anghysbell y Berwyn a Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yn y de, mae’r Dirwedd Genedlaethol hon yn cwmpasu 390 cilomedr sgwâr o fryniau, rhostiroedd, tir fferm, clogwyni a dyffrynnoedd afonydd.

Mae’n lle o gyferbyniad a harddwch – o fryngaerau Oes yr Haearn Bryniau Clwyd sydd wedi’u gorchuddio â grug i sgarp calchfaen trawiadol Eglwyseg, a rhostiroedd tonnog Llandegla. Ond mae hefyd yn dirwedd sy’n fyw ac yn weithredol – cartref i gymunedau, busnesau, ac un sy’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr.

Mae’r Dirwedd Genedlaethol yn gorwedd o fewn rhannau o Sir Dinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’n gyfrifoldeb ar y tri awdurdod lleol hyn i sicrhau rheolaeth dda o’r Dirwedd Genedlaethol trwy’r Cyd-bwyllgor a’r Grŵp Partneriaeth.

[2] Gall ymatebwyr glicio ar y ddolen hon i ychwanegu eu barn ynglŷn â’r hyn sy’n gwneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Mor Arbennig:

Bydd copïau caled o’r holiadur yn cael eu gadael yn Swyddfeydd Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn Loggerheads.

[3] Bydd 15 o bobl o amrywiaeth o gefndiroedd, oedrannau a diddordebau yn cael eu gwahodd i ymuno â’r Panel Dinasyddion. Gallant fod yn:
• Breswylydd lleol neu rywun sy’n gweithio yn yr ardal
• Ymwelydd rheolaidd sy’n gwerthfawrogi’r dirwedd
• Rhywun sydd â diddordeb mewn ffermio, twristiaeth, cadwraeth, treftadaeth, mynediad, iechyd neu fywyd cymunedol

Gall unrhyw un sydd â diddordeb gofrestru a mynegi eu diddordeb mewn ymuno â’r Panel Dinasyddion trwy clicio yma.

Neu gallent ymweld â Swyddfeydd Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn Loggerheads.

Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus ym mis Awst 2025.

I gofrestru neu i gael gwybod rhagor cliciwch yma

Rhannu
Erthygl flaenorol Theatr Stiwt Ysgolion Wrecsam yn ymuno: Cyngerdd codi arian ar gyfer apel Eisteddfod Genedlaethol 2025!
Erthygl nesaf CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025 CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?
DigwyddiadauPobl a lle

Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English