Mae’r blog yn un o nifer o straeon y byddwn yn eu cyhoeddi drwy gydol Wythnos Waith Ieuenctid 2018
Mae Wythnos Waith Ieuenctid ar ein gwarthaf a heddiw rydym yn canolbwyntio ar Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam. Fel y gwasanaethau eraill rydym wedi eu trafod, byddant yn Nhŷ Pawb ddydd Sadwrn 30 Mehefin.
Felly pwy ydyn nhw a beth maen nhw’n ei wneud? Arhoswch o gwmpas i wybod mwy!
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn cynnig cyngor a chymorth i bobl ifanc, rheini a chymunedau sy’n nodi materion sy’n destun pryder.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig ymyriadau strwythuredig sy’n ceisio atal, adsefydlu a mynd i’r afael ag achosion troseddau yn Wrecsam.
Maent yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc 10-17 oed er mwyn atal troseddu ac aildroseddu.
Caiff ei gweledigaeth ei chrynhoi’n berffaith drwy ymdrechu i greu ‘Wrecsam sy’n ddiogel ac yn ddidrosedd i bawb, lle mae pobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi fel dinasyddion yn y gymuned.
Felly, pwy yw’r bobl sydd y tu ôl i’r gwaith rhagorol hwn?
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Y Tîm Atal
Mae’r Tîm Atal yn grŵp amryddawn ac amrywiol o weithwyr proffesiynol sy’n angerddol am helpu pobl ifanc i wneud dewisiadau cadarnhaol. Gall y dewisiadau hyn gynnig dewisiadau eraill iddynt yn hytrach na’u hymddygiad diweddar.
Helpu i gyflawni hyn…
Gall ymyriadau gynnwys gweithdai yn seiliedig ar faterion, mentora a gweithgareddau i ddifyrru, gyda gwerthoedd gwaith ieuenctid yn sail iddynt a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost i youthjusticeservice@wrexham.gov.uk.
Bydd hefyd nifer o wasanaethau eraill yn hyrwyddo eu gwaith a digon o hwyl a gweithgareddau anffurfiol i gymryd rhan ynddynt.
Meic agored
Un o’r digwyddiadau hyn yw sesiwn meic agored yn dechrau am 1pm ac yn nes ymlaen am 3pm fe gewch chi wledd, wrth i Luke Gallagher berfformio cerddoriaeth fyw.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB